Diwrnod Cofio'r Holocost 2025
Diwrnod Cofio'r Holocost
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn digwydd ar 27 Ionawr bob blwyddyn. Y thema eleni yw “Ar gyfer dyfodol gwell” ac mae’n nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau a 30 mlynedd ers yr hil-laddiad ym Mosnia.
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn gyfle i bobl ledled y byd gofio’r 6 miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, ynghyd â’r miliynau o bobl o grwpiau eraill a lofruddiwyd dan erledigaeth y Natsïaid megis pobl Roma a Sinti, pobl Dduon, pobl Slafig, pobl Anabl, pobl LHDTC+, undebwyr llafur, y rheiny â chredoau crefyddol neu wleidyddol a oedd yn gwrthdaro ag ideoleg Natsïaidd. Mae hefyd yn gyfle i gofio’r bobl hynny a lofruddiwyd yn ystod hil-laddiadau mwy diweddar.
Roedd yr Holocost yn fygythiad i ffabrig gwareiddiad, ac mae’n rhaid parhau i wrthsefyll hil-laddiad bob dydd. Mae ein byd yn teimlo’n fregus, ac ni allwn fod yn hunanfodlon.
Ar draws y DU, mae’n rhaid i bawb herio rhagfarn a chasineb. Mae’n bwysig dysgu gwersi o hanes fel y gallwn gymryd camau personol a gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn creu dyfodol mwy diogel lle gallwn i gyd ddysgu mwy, dangos mwy o empathi a gwneud mwy.
Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost cymerwch amser i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau i hil-laddiad, ac anrhydeddu’r goroeswyr a phawb y mae eu bywydau wedi eu newid y tu hwnt i adnabyddiaeth.
Holocaust Memorial Day Trust | HMD 2025 Theme
Wedi ei bostio ar 27/01/2025