Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Llanfairfechan Library put on the map

Rhoi Llyfrgell Llanfairfechan ar y map


Summary (optional)
start content

Rhoi Llyfrgell Llanfairfechan ar y map

Roedd llyfrgelloedd Conwy yn falch iawn o weld bod un o'u prosiectau wedi'i ddewis i fod yn rhan o Wythnos Llyfrgelloedd yn Newid Bywydau a gynhelir gan CILIP (Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth).

Mae sesiwn Croeso Cynnes yn llyfrgell Llanfairfechan yn un o nifer o sesiynau tebyg sy’n cael eu cynnal ar draws holl lyfrgelloedd Conwy, wedi’u sefydlu yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae grŵp rheolaidd yn dal i gyfarfod yn wythnosol yn sesiynau Llanfairfechan ac wedi ffurfio grŵp cyfeillgarwch cryf.

Mae’r sesiynau yn y llyfrgell wedi’u nodi ar fap rhyngweithiol y DU fel rhan o ‘Wythnos Llyfrgelloedd yn Newid Bywydau’ (24 - 28 Mehefin). Y nod yw tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall Llyfrgelloedd ei chael a’r hyn y maent yn ei wneud ar gyfer eu cymunedau lleol.

Meddai Claire Hodgkinson o Lyfrgelloedd Conwy, “Mae mwyafrif y grŵp yn Llanfairfechan yn byw ar eu pen eu hunain, yn gofalu am bartneriaid â chyflyrau iechyd neu â chyflyrau meddygol eu hunain. Mae'r sesiynau wedi rhoi cyfle i aelodau sicrhau lles ei gilydd, cynnig cefnogaeth a chyngor, hel atgofion, trafod digwyddiadau a newyddion lleol a chael hwyl gyda'i gilydd.

“Nid oes gan y rhan fwyaf o aelodau’r grŵp fynediad at gyfrifiadur nac yn gwybod sut i ddefnyddio cyfrifiadur, ac felly mae’r sesiynau hefyd yn rhoi cyfle i staff y llyfrgell eu helpu i fynd ar wefannau, anfon e-byst a gwirio gwybodaeth.”

I gael mwy o wybodaeth am lyfrgelloedd Conwy a grwpiau a gweithgareddau a gynhelir, galwch heibio yn eich llyfrgell leol, ewch i: www.llyfrgelloeddconwy.com neu ffoniwch 01492 576139.

I gael mwy o wybodaeth am CILIP, ewch i: www.cilip.org.uk

Wedi ei bostio ar 28/06/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content