Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Minister visits Llanrwst Family Centre

Gweinidog Llywodraeth Cymru'n ymweld â Chanolfan Deulu Llanrwst


Summary (optional)
start content

Gweinidog Llywodraeth Cymru'n ymweld â Chanolfan Deulu Llanrwst

Ymwelodd Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy, a Chanolfan Deulu Llanrwst ddoe (23/05/24).

Mae canolfannau teuluoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n darparu gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer teuluoedd ar draws y sir.

Canolfan Deulu Llanrwst yw’r gyntaf a sefydlwyd o’r pedair canolfan deulu yng Nghonwy ac fe’i hariennir drwy Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru

Mae’r Ganolfan hefyd yn cael ei defnyddio gan asiantaethau eraill i roi cefnogaeth i’r gymuned leol, er enghraifft Hawliau Lles, y Gwasanaeth Ymwelydd Iechyd a’r Nyrs Ysgol gyda gwasanaethau galw heibio ar gael.

Dywedodd Hannah Fleck, Rheolwr y Gwasanaeth: ”Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddangos ein gwaith gyda’r gymuned yma yng Nghanolfan Deulu Llanrwst yn fawr iawn. Wedi bod yn y gymuned ers ugain mlynedd mae’r lle wedi esblygu i gwrdd ag anghenion y gymuned wrth iddyn nhw rannu eu disgwyliadau a’u gobeithion gyda ni. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu cefnogaeth i’r holl deuluoedd yn ein cymuned, pa un a ydynt o Lanrwst neu’n bellach i ffwrdd.”

 

Wedi ei bostio ar 24/05/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content