Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Disgo Dydd i bobl dros 50

Disgo Dydd i bobl dros 50


Summary (optional)
start content

Disgo Dydd i bobl dros 50

Mae Disgos Dydd yn boblogaidd ledled y DU, ac mae Tîm Lles Conwy yn ymuno â’r parti drwy gynnal digwyddiad ym Mae Colwyn y mis nesaf.

Bydd y Disgo Dydd i Bobl Dros 50 yn cael ei gynnal yn Sheldon’s Café ym Mae Colwyn o 2pm tan 5pm ddydd Iau 18 Gorffennaf.

Mae’r digwyddiad ar gyfer oedolion dros 50 oed sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Conwy i fwynhau prynhawn o gerddoriaeth o’r 60au, 70au a’r 80au.

Dywedodd Lydia Mottershead o’r Tîm Lles yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Mae Age UK wedi cynnal rhai o’r mathau hyn o ddigwyddiadau mewn sawl ardal yn Lloegr ac maen nhw wedi bod yn boblogaidd iawn ac yn parhau i ehangu i ardaloedd newydd yn ôl pob golwg, felly rydym ni’n gobeithio y bydd yn llwyddiant.”

“Mae mynediad i’r digwyddiad cyntaf hwn ym Mae Colwyn yn rhad ac am ddim. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cadw eich lle ymlaen llaw a thalu am eich lluniaeth ar y diwrnod. Os bydd yn boblogaidd, byddwn ni’n trefnu rhagor yn y dyfodol ac yn codi tâl mynediad.”

I gadw eich lle, cysylltwch â’r Tîm Lles Cymunedol yn arosyniach@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 577449.

 

Wedi ei bostio ar 25/06/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content