Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Strafagansa Chwaraeon Traeth Porth Eirias

Strafagansa Chwaraeon Traeth Porth Eirias


Summary (optional)
start content

Strafagansa Chwaraeon Traeth Porth Eirias

Trefnodd tîm Datblygu Hamdden Ffit Conwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Strafagansa Chwaraeon Traeth Porth Eirias fis diwethaf.

Cafodd dros 250 o blant a’u teuluoedd ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan.

Mae’r tîm datblygu hamdden wedi bod yn trefnu’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar draeth Bae Colwyn ers 2016.  Roedd yn ddigwyddiad poblogaidd iawn ar ddiwrnod braf. 

Cafwyd diwrnod llawn gweithgareddau i annog plant i gadw’n iach ac yn heini.  Roedd ystod o chwaraeon ar gael er mwyn amlygu’r holl gyfleoedd sydd ar gael yng Nghonwy. 

Roedd y chwaraeon yn cynnwys: beicio, golff, rownderi, pêl-foli, criced, hoci, boccia, pêl-fasged cadair olwyn, yn ogystal â heriau a sesiynau ffitrwydd gan y timau Nofio Diogel a Datblygu Chwarae.

Meddai Caroline Jones, Rheolwr Datblygu Hamdden:  “Roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn, gyda nifer o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau rhad ac am ddim.

“Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda nifer o bobl yn nodi eu bod wedi cael diwrnod hyfryd.  

“Gobeithiwn fod pawb wedi mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau a’u bod wedi cael eu hysgogi i gymryd rhan mewn clybiau cymunedol neu’r rhaglenni yr ydym yn eu darparu ar draws y sir, megis Golff Cymru, Criced Cymru, a Chlwb Hoci Eirias a ymunodd â ni ar y diwrnod.”

I ddarganfod mwy am chwaraeon yn ardal Conwy, ymwelwch â https://sportconwy.org.uk/sports/ sy’n darparu cyfeiriadur o glybiau lleol. 

Wedi ei bostio ar 04/06/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content