Erlyn am beidio â chydymffurfio â Hysbysiad Amddiffyn Cymunedol
CBSC logo
Yn Llys Ynadon Llandudno ar 20 Ionawr 2025, cafwyd Miss Rachel Ellen Cheshire o Hillcrest Road, Deganwy yn euog o fethu â chydymffurfio a Hysbysiad Amddiffyn Cymunedol o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014.
Roedd yr Hysbysiad, a gyflwynwyd i Miss Cheshire y llynedd, yn ymwneud yn benodol â dau gerbyd a adawyd y tu allan i’w heiddo am bum mlynedd, a adawyd iddynt ddirywio ac achosi niwed i drigolion eraill, a hefyd rhwystro dreif preswylydd arall yn rhannol.
Bu i Miss Cheshire fethu â mynychu’r Llys a chlywyd y mater yn ei habsenoldeb.
Roedd yr Ynadon yn credu bod yr achos wedi ei phrofi’r tu hwnt i bob amheuaeth a chyflwynwyd dirwy o £2,500, £424 o gostau a gordal dioddefwr o £1,000. Cyfanswm o £3,924.
Hefyd gwnaed cais am a dyfarnwyd Gorchymyn Fforffedu o dan adran 50. Mae hyn yn caniatáu atafaelu a dinistrio’r cerbydau ar ôl 21 diwrnod.
Mae’r Hysbysiad yn parhau mewn grym ar hyn o bryd ac yn atal Miss Cheshire rhag cael mwy o gerbydau yn y lleoliad hwn, nad ydynt yn gyfreithlon i fod ar y ffordd, a hefyd yn ei hatal rhag gosod cerbydau er mwyn achosi rhwystr neu niwsans i drigolion eraill.
Wedi ei bostio ar 28/01/2025