Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ym Mae Colwyn
Ym mis Awst 2017, cyflwynwyd dau Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Phlismona 2014 i atal troseddu, anrhefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Nant Eirias a Maes Bowlio Parc Eirias a’r ardal a elwir yn “The Donkey Path” ym Mae Colwyn.
Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn ddilys am 3 blynedd ond gellir eu hymestyn. Cafodd y Gorchmynion hyn eu hymestyn yn 2020.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Heddlu Gogledd Cymru wedi cytuno fod yr angen yn parhau i’r Gorchmynion aros mewn grym yn yr ardal ac maen nhw felly wedi eu hymestyn am 3 blynedd arall hyd fis Awst 2026.
Mae’r Gorchmynion yn gwahardd ieuenctid o dan 17 oed rhag bod mewn grwpiau o dri neu fwy oni bai eu bod o dan oruchwyliaeth oedolyn; creu sŵn gormodol neu afresymol; meddu ar gynwysyddion alcohol agored; ymddwyn mewn ffordd sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi, aflonyddu, brawychu neu drallod yn yr ardaloedd cyfyngedig.
Mae torri’r gorchymyn yn drosedd ac yn derbyn sylw drwy gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig neu erlyn drwy’r Llys Ynadon.
Dywedodd y Cyng. Emily Owen, Aelod Cabinet Rheoleiddio, “Bydd ymestyn y Gorchmynion yn parhau i atal unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, a hefyd yn galluogi’r Heddlu a Swyddogion Gorfodi’r Cyngor i ymdrin â throseddwyr yn gyflym.
Dywedodd Catherine Walker, Arolygydd Dros Dro, Gwasanaethau Plismona Lleol: “Mae ardal y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus yn lleoliad sy’n hanesyddol wedi achosi galw mawr o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r Gorchmynion wedi bod yn werthfawr iawn i ganiatáu i Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gydweithio i geisio mynd i’r afael ag ymddygiad o’r fath a gwneud yr ardal yn lle brafiach a saffach i drigolion ac ymwelwyr. Mae’r Gorchymyn yn arf pwerus i ni ei ddefnyddio ac mae’n bwysig bod y gymuned yn parhau i’n cefnogi ni ac yn cefnogi adnewyddu’r Gorchymyn hwn.”
Wedi ei bostio ar 23/08/2023