Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Côr ysgol yn taro'r nodyn mewn cystadleuaeth genedlaethol

Côr ysgol yn taro'r nodyn mewn cystadleuaeth genedlaethol


Summary (optional)
start content

Côr ysgol yn taro'r nodyn mewn cystadleuaeth genedlaethol

Yn ddiweddar, cymerodd Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele ran yng Nghystadleuaeth Côr Cymru ar S4C yng nghategori Côr Plant.

Digwyddodd y gystadleuaeth ar 16 i 18 Chwefror yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, ac mae’r rhaglen wedi cael ei ddarlledu ar S4C dros yr wythnosau diwethaf. Cyrhaeddodd côr Emrys ap Iwan, sy’n cynnwys 24 o ddisgyblion dan arweiniad Mrs Melanie Neville, rownd gynderfynol ar y rhaglen ar 5 Mai.

Cafodd y rownd derfynol ei ddarlledu ar 12 Mai, pan gipiodd Ysgol Gerdd Ceredigion wobr gyntaf y categori Côr Plant, gyda Chôr Ifor Bach yn ennill tlws Côr Cymru.

Dywedodd y Cyng. Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Hoffwn longyfarch y plant am wneud mor dda yng Nghôr Cymru. Mae safon y gystadleuaeth genedlaethol hon yn uchel iawn, ac mae cyrraedd y rownd gynderfynol yn glod i’w gwaith caled a’u hymroddiad nhw a’u hathrawon.”

Dywedodd Sue Williams, Pennaeth Ysgol Emrys ap Iwan, “Mae pawb yn yr ysgol a’r gymuned ehangach wedi gwirioni gyda llwyddiant y côr yng nghystadleuaeth Côr Cymru. Cafodd y dysgwyr yn y côr brofiad anhygoel, ac rwy’n siŵr y byddent yn ei gofio am byth. Rydym yn falch iawn o’r plant a’r hyn maent wedi’i gyflawni. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r staff sydd wedi helpu a’r rhieni a gofalwyr am eu cefnogaeth.”

Dywedodd Hefin Owen, cynhyrchydd cyfres ar gyfer Rondo Media: “Un o nodau’r gystadleuaeth yw rhoi cyfle i gorau Cymru gymryd rhan mewn cystadleuaeth o safon ryngwladol gydag arbenigwyr o amgylch y byd wedi’u gwahodd i feirniadu. Mae’r gyfres wedi dangos safon ragorol canu corawl sydd yma yng Nghymru.”

Wedi ei bostio ar 21/05/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content