Storm Darragh Diweddariad 07/12/24
Mae rhybudd oren gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer gwyntoedd cryfion a rhybudd melyn ar gyfer glaw a fydd yn effeithio Gogledd Cymru Ddydd heddiw (Dydd Sadwrn): UK weather warnings - Met Office
Byddwch yn ofalus os yn gyrru neu’n mentro allan mewn tywydd garw. Mae timau’r cyngor ar waith yn ymwneud â digwyddiadau ar draws y Sir.
Peidiwch â defnyddio cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod am faterion brys:
Mae ein llinellau ffôn yn brysur iawn ar hyn o bryd, diolch am eich amynedd.
Ffyrdd ar gau oherwydd coed wedi disgyn:
- B5106, Dolgarrog a Threfriw
- A544 Llanfair Talhaiarn
- Ffordd Tan yr Ysgol, Llanrwst
- Grove Road, Bae Colwyn
- Old Highway, Bae Colwyn
- Rowen Road, Tyn Y Coed
- Bryn Eglwys / Llwyn Onn (cyffordd)
- Morfa Ave, Bae Cinmel
- Llanrwst Road/Oak Drive, Bae Colwyn
Ar gau oherwydd llifogydd:
- B5106 rhwng Llanrwst a Gwydir
- Gors Road, Tywyn
- A548 rhwng Llangernyw a Llanfair Talhaiarn
Mae Llyfrgelloedd, Canolfannau Hamdden, Canolfannau Croeso a Theatrau ar gau ar ddydd Sadwrn 07/12/24.
Diweddariad ymatebwyr aml-asiantaeth gogledd Cymru: Diweddariad ar Storm Darragh – tarfu yn parhau er gwaethaf rhybudd coch am wynt cryf yn dod i ben - Newyddion - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Wedi ei bostio ar 07/12/2024