Taith Prydain i Ferched 2024 - Gwybodaeth am Ffyrdd ar Gau a Gwaharddiadau Parcio - Dydd Iau 6 Mehefin
Rydym yn falch o groesawu Taith Prydain i Ferched; un o rasys beicio proffesiynol mwyaf y Deyrnas Unedig, ddydd Iau 6 Mehefin 2024. Yn y cymalau agoriadol, bydd rhai o brif reidwyr y byd yn herio rhai o ffyrdd a dringfeydd mwyaf eiconig Cymru, a disgwylir y bydd miloedd o bobl ar y strydoedd yn croesawu’r ras.
Mae’r digwyddiad hwn yn hanesyddol wedi’i gefnogi’n dda yn sir Conwy. Bydd y reidwyr yn gadael o’r Trallwng yng nghanolbarth Cymru i wynebu gwaith dringo o 2,276m. Byddant yn dod i Landudno drwy Gonwy, cyn cael diweddglo gwerth ei weld ar y promenâd.
Byddant yn gadael y Trallwng am 11:15 a disgwylir iddynt gyrraedd Llandudno tua 15:10.
I gadw’r beicwyr yn ddiogel bydd yn rhaid cau nifer fechan o ffyrdd a chyfyngu ar barcio ar hyd llwybr y ras. Gweler y manylion isod.
Bydd ffyrdd sydd ar gau yn cael eu rheoli gydol yr adeg a bydd mynediad i breswylwyr a pherchnogion busnesau’n cael ei gynnal cyn hired â phosib.
Bydd ffyrdd ar hyd y llwybr yn cau ar dreigl yn ystod pob cymal o’r daith. Mae hyn yn golygu y bydd ffyrdd ar neu o gwmpas llwybr y beiciau’n cael eu cau am gyfnod byr tra bod y ras yn mynd heibio – fel arfer am gyfnod o tua 10 i 15 munud tra’n disgwyl iddynt gyrraedd a bydd cerbydau hebrwng yr heddlu’n bresennol.
Bydd cerbyd yn cyrraedd 15 munud cyn y beicwyr, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn y ras.
Bydd heddlu hyfforddedig a beicwyr modur hebrwng yn bresennol ar hyd y daith. Os bydd swyddog yn gofyn i chi stopio, gwrandewch arno’n ofalus ac ufuddhewch i’w gyfarwyddiadau.
Bydd y llinell derfyn y tu allan i Venue Cymru ar Bromenâd Llandudno ym Mhentref y Daith. Anogwn bawb i ymuno yn y dathlu yn Llandudno ac ar hyd llwybr y ras. Bydd yno weithgareddau ar y promenâd gydol y prynhawn.
Os na fedrwch chi fod yno, byddwn yn cyhoeddi’n fuan ar gyfryngau cymdeithasol lle gallwch wylio’r ras ar y teledu.
Sylwer y bydd y strydoedd isod ar gau neu’n destun cyfyngiadau ar barcio.
Ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra. Gobeithio eich bod yn cytuno y bydd y digwyddiad yn un cadarnhaol iawn i’r ardal a diolchwn i chi am eich amynedd a’ch cydweithrediad.
I gael mwy o wybodaeth am y ras, ewch i:
www.britishcycling.org.uk/tourofbritain
Os oes gennych unrhyw bryderon penodol cysylltwch â digwyddiadau@conwy.gov.uk (01492) 575932
Dydd Mercher 5 Mehefin
Llandudno
Lleoliad | Gwaharddiadau Parcio | Cau Ffyrdd |
Y Promenâd
(Penrhyn Crescent/Nevill Cres/Mostyn Cres)
|
1800 - 2359
Rhwng Vaughan Street a Ty’n y Ffrith Rd
|
1800 – 2359
Rhwng Vaughan Street a Ty’n y Ffrith Rd
|
Tudor Road
|
1800 – 2359
Rhwng y Promenâd ac Adelphi Street
|
1800 – 2359
Rhwng y Promenâd ac Adelphi Street
|
Dydd Iau 6 Mehefin
Llandudno
Lleoliad | Gwaharddiadau Parcio | Cau Ffyrdd |
Y Promenâd The Promenade
(Penrhyn Crescent/Nevill Cres/Mostyn Cres)
|
0000 – 2000
Rhwng Vaughan Street a Ty’n y Ffrith Rd
|
0000 – 2000
Rhwng Vaughan Street a Ty’n y Ffrith Rd
|
Tudor Road
|
0000 – 2000
Rhwng y Promenâd ac Adelphi Street
|
0000 – 2000
Rhwng y Promenâd ac Adelphi Street
|
Y Promenâd The Promenade
(Rhodfa’r De/Glan y Môr Parade/St George’s Cres/Gloddaeth Cres)
|
0800 – 1600
Rhwng Rhodfa’r Gogledd a Vaughan Street
|
0800 – 1600
Rhwng Rhodfa’r Gogledd a Vaughan Street
Bydd mynediad dan reolaeth at ddibenion hanfodol tan 1300
|
Abbey Road
|
0800 – 1600
Y ddwy ochr o’r ffordd gerbydau
|
1400 – 1600
Cau’r ffordd ar dreigl am tua 30 munud er mwyn i’r ras basio drwodd.
|
Tudno Street
|
0800 – 1600
Y ddwy ochr o’r ffordd gerbydau
|
1400 – 1600
Cau’r ffordd ar dreigl am tua 30 munud er mwyn i’r ras basio drwodd.
|
Church Walks
|
0800 – 1600
Rhwng Tudno Street a Rhodfa’r Gogledd yn unig
|
1400 – 1600
Rhwng Tudno Street a Rhodfa’r Gogledd yn unig
Cau’r ffordd ar dreigl am tua 30 munud er mwyn i’r ras basio drwodd.
|
Great Ormes Road
|
0800 – 1600
Y ddwy ochr o’r ffordd gerbydau
|
1400 – 1600
Cau’r ffordd ar dreigl am tua 30 munud er mwyn i’r ras basio drwodd.
|
Bryniau Road
|
0800 – 1600
Y ddwy ochr o’r ffordd gerbydau
|
1400 – 1600
Cau’r ffordd ar dreigl am tua 30 munud er mwyn i’r ras basio drwodd.
|
Ty’n y Ffrith Road
|
Dim
|
1400 – 1600
Rhwng Penrhyn Cres a Mostyn Broadway
|
Mostyn Broadway
|
Dim
|
1400 – 1600
Rhwng cylchfan Ty’n y Ffrith Rd a Charlotte Rd
Sylwer, bydd un lôn o’r gylchfan ar agor ar gyfer mynediad i Clarence Rd a Mostyn Avenue
|
Conwy/Deganwy
Lleoliad | Gwaharddiadau Parcio | Cau Ffyrdd |
A5106 Llanrwst Road
|
1200 – 1500
Y ffordd at gyffordd Mill Hill a’r ffyrdd ymadael ar y ddwy ochr o’r ffordd gerbydau.
|
1330 – 1500
A547 Rose Hill Street / A5106 Llanrwst Road (Cylchfan Mini). Cau’r gyffordd nes bod cynffon y ras wedi mynd heibio.
|
A546 Glan y Mor Road
|
Dim
|
1330 – 1500
Dim troi i’r chwith dros y groesfan reilffordd. Ffordd arall ar hyd Tŷ Mawr Road. Cau’r gyffordd nes bod cynffon y ras wedi mynd heibio.
|
A546/A547 roundabout
|
Dim
|
1330 – 1500
Ar gau nes bod cynffon y ras wedi mynd heibio. Bydd traffig yn dal yn gallu mynd at yr A55 ond ni chaniateir i unrhyw gerbydau fynd ar yr A546 yn yr un cyfeiriad â’r ras
|
Tal-y-bont / Dolgarrog / Trefriw / Nebo / Pentrefoelas
Lleoliad | Gwaharddiadau Parcio | Cau Ffyrdd |
Tal – y – bont B5106
|
Y tu allan i dai pobl.
|
Dim
|
Dolgarrog B5106
|
Y ddwy ochr o’r ffordd gerbydau
|
Dim
|
Trefriw B5106
|
Y ddwy ochr o’r ffordd gerbydau o’r arwyddion 20mya hyd ddechrau’r llinellau melyn dwbl, gan gynnwys y tu allan i dai pobl.
|
Dim
|
Nebo B5113
|
Y ddwy ochr o’r ffordd gerbydau drwy’r pentref at arwyddion y terfyn cyflymder Cenedlaethol.
|
Dim
|
Pentrefoelas B5113
|
Y ddwy ochr o’r ffordd gerbydau o’r gyffordd â’r A5 at arwyddion y terfyn cyflymder Cenedlaethol
|
Dim
|
Wedi ei bostio ar 30/05/2024