Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gwahoddiad i unigolion dan 25 oed i gymryd rhan

Gwahoddiad i unigolion dan 25 oed i gymryd rhan


Summary (optional)
start content

Gwahoddiad i unigolion dan 25 oed i gymryd rhan

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn chwilio am bobl ifanc i gyfrannu at faterion sy’n effeithio arnyn nhw ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

Mae Cyngor Ieuenctid Conwy yn tyfu ac mae yna le ar gael ar y Cyngor Ieuenctid i bobl ifanc 13 - 25 oed drafod y materion sy’n effeithio arnyn nhw a’u cymuned.  

Dywedodd Catherine Davies, Gweithiwr Datblygu Achrediad gyda Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, “Mae Cyngor Ieuenctid Conwy yn ymwneud â phobl ifanc yn cael llais a gwneud penderfyniadau ar brosiectau sy’n gwella bywyd holl blant a phobl ifanc yng Nghonwy.  Mae’n gyfle i fod yn rhan o ddarlun mwy a rhoi barn ar faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc.”

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid hefyd yn awyddus i glywed gan bobl ifanc sydd â phrofiad o fyw mewn tai dros dro, yn ddigartref neu sy’n dymuno bod yn rhan o wella tai, i ymuno â grŵp newydd. 

Dywedodd Faye Willet, Cydlynydd Digartrefedd Ieuenctid gyda Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, “Un o flaenoriaethau’r Cyngor yw bod pobl yng Nghonwy yn cael llety fforddiadwy, o ansawdd da sy’n cwrdd â’u hanghenion ac yn gwella eu bywydau.   Mae’n bwysig fod pobl ifanc yn cael bod yn rhan o’r gwaith hwn a bydd y grŵp newydd hwn yn helpu i sicrhau fod eu lleisiau yn cael eu clywed.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Gwasanaeth Ieuenctid Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 
neu dewch o hyd i ni ar facebook yn www.facebook.com/CyngorIeuenctidConwyYouthCouncil

Wedi ei bostio ar 28/06/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content