Gwelliannau i amddiffyniad arfordirol Penmorfa
Gwaith yn dechrau: Yr wythnos sy’n dechrau ar 15 Gorffennaf 2024
Gwaith yn dod i ben: Mis Medi 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dechrau gwaith i wella amddiffynfeydd arfordirol Penmorfa. Bydd y gwaith hwn yn gwella’r amddiffynfeydd arfordirol presennol, er mwyn lleihau’r posibilrwydd ar gyfer llifogydd arfordirol a’i effeithiau.
Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru Achos Busnes Amlinellol ym Mehefin 2022, a oedd yn nodi dewisiadau posibl ar gyfer gwelliannau i amddiffynfeydd yn Nhraeth y Gogledd a Phenmorfa.
Ers hynny, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio i gadarnhau cynllun a fydd yn:
- cynyddu lefel yr amddiffyniad ar gyfer y dref
- darparu safon fwy dibynadwy a chyson o amddiffyniad
Yn seiliedig ar y model llifogydd arfordirol a gyflawnwyd dros y 12 mis diwethaf, bydd y gwaith yn mynd i’r afael â ‘mannau gwan’ o fewn yr amddiffynfeydd presennol.
Bydd y gwaith yn gyfres o welliannau ar raddfa fach mewn lleoliadau amrywiol, a gwblheir fesul cam.
Bydd cam cyntaf y gwaith yn canolbwyntio ar:
- lleoliadau ‘logiau atal’ newydd (rhain yw’r bylchau yn y wal a ellir eu rhwystro gyda logiau pren pan ragwelir tywydd garw)
- ymestyn y wal eilaidd ar Rodfa’r Gorllewin am 50m
Bydd mynediad i’r traeth, glaswellt a maes parcio Dale Road trwy gydol cyfnod cwblhau cam un y gwaith.
Bydd rhan fach o balmant ar gau yn agos at yr ardaloedd gwaith, gyda gwyriad i gerddwyr. Ni effeithir ar y traffig ar hyd Rhodfa’r Gorllewin.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolchwn i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith gwella hanfodol hwn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor: Llandudno - Gwelliannau i Amddiffynfeydd Arfordirol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Ariennir y gwaith hwn gan Raglen Rheoli Risg Arfordirol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Wedi ei bostio ar 15/07/2024