Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Youth Council Members attend Young Wales Festival

Aelodau Cyngor yr Ifanc yn mynd i Ŵyl Cymru Ifanc


Summary (optional)
start content

Aelodau Cyngor yr Ifanc yn mynd i Ŵyl Cymru Ifanc

Members of the Conwy Youth Council at the Senedd as part of the Young Wales Festival

Aelodau Cyngor yr Ifanc Conwy yn y Senedd fel rhan o Ŵyl Cymru Ifanc.

Aeth pum aelod o Gyngor yr Ifanc Conwy i’r Ŵyl Cymru Ifanc flynyddol y mis diwethaf (16 Tachwedd).

Trefnir y digwyddiad gan Plant yng Nghymru, sef y corff ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.

Roedd y pum person ifanc, sy’n fyfyrwyr yn Ysgol Eirias, Ysgol Creuddyn, Ysgol Dyffryn Conwy a Choleg Llandrillo, yn cynrychioli Cyngor yr Ifanc yn y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Spark ar Gampws Prifysgol Caerdydd.

Roedd yr Ŵyl yn canolbwyntio ar bwysigrwydd hyrwyddo safbwyntiau plant a phobl ifanc yng Nghymru am y materion sy’n bwysig iddyn nhw.

Cafodd y bobl ifanc gyfarfod â Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, a sgwrsio drwy gyswllt fideo â Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Dawn Boden. 

Cawsant hefyd gymryd rhan mewn gweithdai ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cyfiawnder cymdeithasol, newid hinsawdd, addysg a hyfforddiant, iechyd meddwl a lles, a diogelwch ar-lein.

Meddai Isobel, un o Aelodau Cyngor yr Ifanc Conwy, “Dyma fy nhro cyntaf i mewn digwyddiad fel hyn, felly roedd cael cyfle i leisio fy marn ar lefel genedlaethol yn anhygoel.”

Meddai’r Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy, sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Ieuenctid,  “Mae ein Gwasanaeth Ieuenctid yn gwneud gwaith gwych gyda phobl ifanc i fagu eu hyder a’u helpu i gymryd rôl gadarnhaol yn eu cymunedau. Mae’n hyfryd gweld hyn ar waith gyda gweithgareddau Cyngor yr Ifanc Conwy, a’u gweld yn cael cyfle i gymryd rhan yng Ngŵyl Cymru Ifanc.”

 

Mae Cyngor yr Ifanc Conwy yn rhoi cyfle i bobl ifanc leisio eu barn a gwneud penderfyniadau am brosiectau i wella bywyd holl blant a phobl ifanc Sir Conwy.

Mae gwybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid Conwy a Chyngor yr Ifanc Conwy ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: Gwasanaeth Ieuenctid Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Plant yng Nghymru yw’r corff ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru. Plant yng Nghymru | Rhoi plant wrth wraidd ein gwaith

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Wedi ei bostio ar 19/12/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content