Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Hysbysiad Neilltuo Llain o dir Agored ym Mharc Eirias

Hysbysiad Neilltuo Llain o dir Agored ym Mharc Eirias


Summary (optional)
start content

Adran 122  (1) A (2A) - Deddf Llywodraeth Leol 1972 (Fel y'i Diwygiwyd)

Rhoddir hysbysiad drwy hyn yn unol ag Adrannau 122(1) a 2(A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fwriad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i wneud defnydd priodol o dir sy’n dod i gyfanswm o 2176m2 ym Mharc Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BN. Defnyddir y tir ar gyfer dibenion cynllunio i adeiladu Canolfan Asesu Plant newydd.

Mae cynllun o’r tir arfaethedig i gael ei ddefnyddio ar gael i’w archwilio ar ffens Parc Eirias ger safle yr hen Meadow Lodge, 247 Ffordd Abergele, Hen Golwyn, LL29 9YF. Gellir gweld y cynnig hefyd ar wefan Bwrdeistref Sirol Conwy.

Rhaid gwneud unrhyw gynrychiolaethau neu wrthwynebiadau i’r defnydd arfaethedig yn ysgrifenedig i wasanaethau Gofal Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN neu drwy e-bost at gofal.cymdeithasol@conwy.gov.uk gan ddyfynnu cyfeirnod Defnydd Tir ML erbyn 5pm ar 27 Ionawr 2021.

Cynllun Safle (PDF)

Dyddiedig: 4 Ionawr 2021

Delyth E Jones, Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?