Cynhaliwyd Asesiad o Effaith integredig ynghyd ag Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, sy’n cynnwys y Gymraeg a’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Mae’r asesiadau hyn o gymorth i ddod i ddeall y canlynol:
- Cael gwell dealltwriaeth o’r unigolion hynny y gallai’r polisi neu’r arfer gael effaith arnynt
- Diwallu gwahanol anghenion yn well a dod yn fwy hygyrch a chynhwysol
- Galluogi cynllunio ar gyfer llwyddiant - nodi peryglon posib a chanlyniadau anfwriadol cyn i unrhyw ddifrod gael ei wneud.
- Galluogi gwell cynllunio a fydd yn golygu bod penderfyniadau’n rhai rhagweithiol yn hytrach na’n rhai ymatebol, gan osgoi gorfod dad-wneud penderfyniadau a allai arwain at oblygiadau o ran costau ac enw da.
- Dangos bod penderfyniadau yn cael eu hystyried yn drylwyr a’u bod wedi cymryd barn y rheiny yr effeithir arnynt i ystyriaeth.
- Ein galluogi i reoli disgwyliadau drwy esbonio’r cyfyngiadau yr ydym yn gweithio o’u mewn (e.e. cyllideb).
- Helpu osgoi a gwella canlyniadau i unigolion.
- Cael gwared ar arferion amhriodol neu niweidiol yn ogystal â gwahaniaethu sefydliadol.
- Sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal a bod penderfyniadau yn cael eu gwneud i ddiogelu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg
Roedd yr asesiad uchod yn cynnwys y canlynol:
- Cefndir y cynllun
- Ystyriaethau’r ddyletswydd gydraddoldeb, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a’r effaith ar y Gymraeg
- Sut y mae’n cyd-fynd â nodau lles Conwy
- Arfarnu cynaliadwyedd
Roedd yr asesiad uchod yn cynnwys y camau a restrir isod:
- Cam 1 - Nodi Prif Nodau ac Amcanion y Polisi neu’r Arfer
- Cam 2 - Data, Ymgysylltu ac Asesu’r Effaith
- Cam 3 – Caffael a Phartneriaethau
- Cam 4 – Delio gydag Effaith Niweidiol neu Anghyfreithlon a Chryfhau’r Polisi neu’r Arfer
- Cam 5 – Penderfyniad i Fwrw Ymlaen
- Cam 6 – Camau Gweithredu a Threfniadau ar gyfer Monitro Canlyniadau ac Adolygu Data
- Cam 7 - Cyhoeddi’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Yn gryno, roedd mwyafrif yr effeithiau yn gadarnhaol. Mae prosiectau/gwasanaethau a gomisiynwyd gyda chyllid y Grant Cymorth Tai yn hyrwyddo ymgysylltiad cadarnhaol gyda phobol sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Mae’r gwasanaethau’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn hyrwyddo annibyniaeth, yn ogystal ag yn ystyried unrhyw nodweddion a ddiogelir, dyletswyddau economaidd-gymdeithasol ac yn ystyried a hyrwyddo’r Gymraeg.
Fe nodwyd rhywfaint o fylchau wrth gasglu data, , a fydd yn cael ei gywiro erbyn mis Ebrill 2022, pan fydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei cheisio gan y Darparwyr a hefyd gan y rheiny sy’n atgyfeirio pobl at wasanaethau.
Tudalen Nesaf: 6. Gweithredu, Monitro, ac Adolygu'r Strategaeth