Fel rhan o’r broses ymgynghori, gofynnwyd i bobl sut yr hoffent gymryd rhan mewn rhoi’r strategaeth ar waith.
Bydd Partneriaeth Strategol Tai Conwy’n cadw rheolaeth gyffredinol am y Strategaeth ac yn cael diweddariadau rheolaidd gan Dîm y Grant Cymorth Tai am sut mae’r blaenoriaethau’n cael eu gweithredu.
Bydd Tîm y Grant Cymorth Tai, ynghyd â phartneriaid eraill yng Nghonwy, yn ceisio hyrwyddo’r Grant Cymorth Tai ac effeithiau’r gwasanaethau ymhellach. Bydd hyn yn cynnwys astudiaethau achos, adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaethau, mynychu digwyddiadau, a bydd ein dogfen ranbarthol, Hanesion Ein Pobl, yn cael ei diweddaru gan y Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol.
Mae gan Conwy berthnasoedd da gyda’n partneriaid ym meysydd Iechyd, Gofal a Chyfiawnder Troseddol ar hyn o bryd, a byd yn parhau i gydweithio â nhw i gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd.
Er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau, bydd y cyllid canlynol yn cael ei ddefnyddio yng Nghonwy:
- Grant Cymorth Tai
- Cyllid yr awdurdod lleol
- Grant Tai Cymdeithasol
- Cyllid Digartrefedd Statudol i gyd-fynd â’r gwasanaethau ataliol
Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, fe gynhelir adolygiad o ba wybodaeth sydd ei hangen i adolygu ein blaenoriaethau a monitro unrhyw newidiadau yn yr anghenion a nodwyd drwy Ddata Llwybr Sengl, Data Canlyniadau a Data Digartrefedd Conwy, yn ogystal ag unrhyw dystiolaeth anecdotaidd.
Yn unol ag Amodau GCT, bydd y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu yn cael eu monitro, eu hadolygu a’u gwerthuso fel a ganlyn:
Bydd adroddiadau cynnydd chwarterol, chwe-misol a blynyddol yn cael eu paratoi a’u rhannu gyda’r grwpiau/partneriaid canlynol:
-
- Y Bartneriaeth Strategol Tai
- Grŵp Cynllunio GCT Conwy
- Y Grŵp Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol
- Llywodraeth Cymru
Bydd y strategaeth a’r blaenoriaethau yn cael eu hadolygu yn 2023 i sicrhau bod y ddogfen yn gyfredol ac yn addas i’r diben.
Bydd yr adolygiad yn ystyried y cynnydd a wnaed, ffactorau mewnol ac allanol sy’n dylanwadu ar weithrediad y strategaeth ac anghenion newidiol defnyddwyr y gwasanaethau.
Tudalen Nesaf: Atodiad A - Cynllun Gweithredu