Sut i wneud cais
Rhaid i geisiadau gael eu hanfon i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal lle mae'r safle wedi'i leoli. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr hysbysebu eu cais ac i roi rhybudd o'r cais i unrhyw berson arall neu awdurdod cyfrifol.
Rhaid i geisiadau fod mewn fformat penodol a dod gydag unrhyw ffi sy'n ofynnol. Atodlen weithredu, cynllun o'r safle a ffurflen ganiatâd gan y goruchwyliwr safle (ar gyfer ceisiadau lle bydd gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy). Bydd atodlen weithredu yn cynnwys y manylion canlynol:
- y gweithgareddau trwyddedadwy
- yr amseroedd pan fydd y gweithgareddau'n digwydd
- unrhyw amseroedd eraill pan fydd y safle ar agor i'r cyhoedd
- yn achos ymgeiswyr sy'n dymuno cael trwydded gyfyngedig, y cyfnod y mae angen y drwydded
- gwybodaeth mewn perthynas â'r goruchwyliwr safle
- a yw unrhyw alcohol sydd i'w werthu i'w yfed ar y safle, neu oddi arno, neu'r ddau
- y camau y bwriedir eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
- unrhyw wybodaeth ofynnol arall
Ffioedd:
Cais | Band A Dim - £4,300
| Band B £4,301 – £33,000
| Band C £33,001 – £87,000 | Band D £87,001 – £125,000
| Band E £125,001 +
|
Cais ac amrywiad Trwydded Safle* |
£100 |
£190 |
£315 |
£450 |
£635 |
Mân Amrywiad |
£89 |
£89 |
£89 |
£89 |
£89 |
Adnewyddu blynyddol |
£70 |
£180 |
£295 |
£320 |
£350 |
Mae’r ffi ar gyfer y cais yn dibynnu ar werth ardrethol annomestig cenedlaethol yr eiddo.
*mae ffioedd ychwanegol ar gyfer ceisiadau am drwyddedau safle, a ffi flynyddol ar gyfer digwyddiadau ar raddfa eithriadol o fawr (5000+), cysylltwch â'r swyddfa drwyddedu
Ffioedd eraill | Pris |
Trwydded safle neu grynodeb yn cael ei dwyn neu'n mynd ar goll |
£10.50 |
Rhoi gwybod am newid cyfeiriad |
£10.50 |
Cais i amrywio trwydded i ddynodi unigolion yn oruchwyliwr safle |
£23.00 |
Cais i drosglwyddo trwydded safle |
£23.00 |
Hysbysiad awdurdod dros dro yn dilyn marwolaeth etc deiliad y drwydded |
£23.00 |
Cymhwyster
Rhaid i'r awdurdod trwyddedu ganiatáu'r cais, a all fod yn ddarostyngedig i amodau, ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn cael eu derbyn. Rhaid cynnal gwrandawiad os bydd unrhyw sylwadau yn cael eu gwneud mewn perthynas â'r cais. Os cynhelir gwrandawiad gellir rhoi'r drwydded neu ei rhoi yn amodol ar amodau ychwanegol, gall gweithgareddau trwyddedadwy a restrwyd yn y cais gael eu gwahardd neu gall y cais gael ei wrthod.
Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cyflwyno hysbysiad o'i benderfyniad ynghylch yr ymgeisydd, unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau perthnasol a phennaeth yr heddlu.
Deddfwriaeth ac Amodau
Deddf Trwyddedu 2003
Prosesu ac Amserlenni
Mae'n rhaid i ni ddelio gyda'ch cais o fewn 28 diwrnod a gwirio bod hysbysiad cyhoeddus yn cael ei arddangos, efallai y bydd yr adeilad yn cael ei arolygu cyn i'ch cais gael ei ystyried.
Ar ôl y 28 diwrnod, ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau wedi'u gwneud, bernir bod y drwydded yn cael ei rhoi.
Os yw sylwadau wedi'u gwneud ac na ellir cyfryngu, bydd Gwrandawiad yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio yn cael ei drefnu. Gall y Pwyllgor ganiatáu'r Dystysgrif, caniatáu gydag addasiadau neu wrthod y cais.
Dulliau Apêl / Gwneud Iawn:
- Os gwrthodir cais, gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad.
- Rhaid i apeliadau gael eu gwneud i'r llys ynadon o fewn 21 diwrnod i'r penderfyniad.
- Gall deilydd trwydded hefyd apelio yn erbyn penderfyniad i roi amodau ar dystysgrif neu i wahardd unrhyw weithgaredd clwb.
Manylion cyswllt:
- Trwy e-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk
- Dros y Ffôn: 01492 576626
Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 10.00 a 12:30
- Trwy'r post:
Adain Drwyddedu,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN
Gweler hefyd