Mae arnoch angen Rhybudd Digwyddiad Dros Dro os ydych chi’n dymuno cynnal y gweithgaredd trwyddedadwy hyn ar safle didrwydded:
- gwerthu alcohol
- gweini alcohol i aelodau clwb preifat
- darparu adloniant, e.e. cerddoriaeth, dawnsio neu ddigwyddiadau chwaraeon dan do
- gweini bwyd poeth neu ddiod rhwng 11pm a 5am
Cyn i chi wneud cais
Darllenwch y wybodaeth:
Rhybudd Digwyddiad Dros Dro: Nodiadau Canllaw
Datganiad Polisi Trwyddedu (Dogfen PDF)
Mae’n rhaid i chi wirio:
- Os oes angen arnoch ganiatâd arall, megis caniatâd gan berchennog y tir i ddefnyddio’r safle
- Os oes cyfyngiadau eraill, megis cyfyngiadau ar ganiatâd cynllunio neu gyfyngiadau ar eich prydles
- Na fydd y Rhybudd Digwyddiad Dros Dro yn gwrth-wneud y caniatâd hwnnw a’ch bod yn sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda phob cyfyngiad.
Pryd i wneud cais
- Mae’n rhaid i ni dderbyn eich Rhybudd Digwyddiad Dros Dro Safonol 10 diwrnod gwaith o leiaf cyn eich digwyddiad.
- Gallwn dderbyn cais am rybudd dim hwyrach na 5 diwrnod gwaith cyn eich digwyddiad, ond bydd hwn yn Rybudd Digwyddiad Dros Dro Hwyr (TEN Hwyr).
- Mae’r broses a’r ffurflenni yr un fath ar gyfer Rhybuddion Digwyddiad Dros Dro Safonol a Hwyr.
Ffioedd
Rhybudd Digwyddiad Dros Dro - £21.00
Rhybudd Digwyddiad Dros Dro Hwyr - £21.00
Prosesu ac amserlenni
- Byddwn yn prosesu Rhybudd Digwyddiad Dros Dro ar y diwrnod gwaith nesaf a bydd hyn yn cymryd 10 diwrnod gwaith. Os ydym ni’n derbyn gwrthwynebiad, byddwn yn dyrannu rhybudd gwrthwynebu sy’n amlinellu’r gwrthwynebiad. Gallwch apelio i’r Llys Ynadol lleol o fewn 21 diwrnod, ond nid o fewn 5 diwrnod i’r digwyddiad.
- Byddwn yn prosesu Rhybudd Digwyddiad Hwyr ar y diwrnod gwaith nesaf a bydd hyn yn cymryd 5 diwrnod gwaith. Os ydym ni’n derbyn gwrthwynebiad, byddwn yn dyrannu rhybudd gwrthwynebu sy’n amlinellu’r gwrthwynebiad ac ni fydd y digwyddiad yn cael ei ganiatáu.
Gwybodaeth ddefnyddiol
- Cadwch eich Rhybudd Digwyddiad Dros Dro mewn man diogel yn y digwyddiad.
- Mae’n rhaid i chi arddangos copi o’r Rybudd Digwyddiad Dros Dro mewn man amlwg yn yr eiddo.
- Os ydych chi’n gwneud cais drwy’r post, mae’n rhaid i chi anfon dau gopi o’r rhybudd i Adain Drwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Iechyd Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Heddlu Gogledd Cymru.
Deddfwriaeth ac amodau
Deddf Trwyddedu 2003
Manylion Cyswllt Awdurdodau Cyfrifol
Manylion Cyswllt Awdurdodau Cyfrifol
Cysylltwch â ni:
E-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 576626
Dydd Llun i ddydd Gwener
10.00am i 12.30pm
Post
Yr Adain Drwyddedu,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN