Mae ein proses ar-lein newydd yn gwneud ymgeisio ac adnewyddu’n gyflymach ac yn haws. Fel rhan o foderneiddio parhaus o’n gwasanaeth trwyddedu. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud cais neu adnewyddu trwydded presennol.
Sut i wneud cais
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd lofnodi datganiad i gydymffurfio â’r holl amodau trwyddedu gweithredwr. Mae’r trwydded Gweithredwr yn ddilys am 5 mlynedd.
Mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflen gais ar-lein, y dogfennau ddigidol ategol a thalu’r ffi er mwyn i’r cais gael ei dderbyn.
I lenwi’r ffurflen gais ar-lein, bydd arnoch chi angen y dogfennau digidol canlynol.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Collfarnau Troseddol a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae’n rhaid bod gennych chi gymeriad da. I sefydlu hyn, bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad hanes troseddol ‘manwl’ gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gollfarnau troseddol (PDF)
Mae gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wasanaeth tanysgrifio ar-lein sy’n caniatáu i ymgeiswyr ddiweddaru eu tystysgrifau DBS.
Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru DBS
Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru naill ai pan fyddwch yn ymgeisio am eich gwiriad DBS neu drwy ddefnyddio eich rhif tystysgrif DBS gwreiddiol pan gaiff ei gyflwyno (mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyflwyno eich tystysgrif DBS).
Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded.Efallai y bydd rhai ceisiadau yn cael eu cyfeirio at Bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio Cyffredinol y Cyngor er mwyn gwneud penderfyniad.
Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o benderfyniad eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod o wneud y penderfyniad.
Deddfwriaeth ac Amodau
Prosesu ac Amserlenni
Pan fydd yr holl waith papur wedi’i dderbyn gan yr ymgeisydd a’r asiantaethau allanol, Wedi mynychu’r sesiwn ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a llwyddo yn y Prawf Gwybodaeth Hurio Preifat, gall y drwydded gymryd hyd at 28 diwrnod i’w chynhyrchu.
Dulliau Apelio / Unioni:
Byddai'r ymgeisydd yn gallu apelio unrhyw benderfyniad trwy gyfrwng cwyn i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am benderfyniad y Cyngor.
Cysylltu â ni