Mae’r prif gynllun yn darparu fframwaith ar gyfer adfywio ffisegol y dref gan ganolbwyntio ar bedair prif ardal o newid a sefydlu Bae Colwyn fel canolfan ranbarthol ar gyfer busnes a hamdden. Y pedair ardal ar gyfer newid yw Parc Eirias, Glan y Môr, Canol y Dref a’r ardal adnewyddu tai.
Mae’r rhain yn cyflwyno’r cynhwysion sylfaenol ar gyfer Bae Colwyn ar ei newydd wedd sy'n gweithredu fel tref gyflawn sy'n gwasanaethu anghenion ei phreswylwyr ac ymwelwyr. Mae’r Prif Gynllun yn dod â’r holl syniadau a mentrau at ei gilydd mewn un strategaeth integredig ar gyfer newid. Nid yw’r Prif Gynllun yn lasbrint, mae’n darparu fframwaith ar gyfer syniadau, dyheadau a chysyniadau sy’n annog buddsoddiad yn y dref gan y gymuned a busnesau.
Prif Cynllun Bae Colwyn (CDLl10) (PDF)