Ymgynghoriad cyhoeddus
Cwblhawyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion rhwng 18 Medi a 31 Hydref 2020.
Rydym wedi adolygu ac ystyried yr holl ymatebion ac rydym bellach yn gweithio ar gynlluniau diwygiedig.
Cefndir
Cyhoeddwyd Prif Gynllun Bae Colwyn yn wreiddiol yn 2010. Daeth y Prif Gynllun â syniadau, dyheadau a chysyniadau ynghyd i helpu tynhau ffocws ar adfywio’r dref. Roedd y Prif Gynllun gwreiddiol yn canolbwyntio ar bedair prif ardal:
- Glan y môr
- Parc Eirias
- Tai
- Canol y Dref
Ers hynny, mae Bae Colwyn wedi gweld buddsoddiad sylweddol a llawer o newidiadau. Mae'r rhain yn cynnwys:
- amddiffynfeydd arfordirol
- gwella’r promenâd
- datblygu Canolfan Ddigwyddiadau Eirias
- adeiladu swyddfeydd newydd y cyngor yng Nghoed Pella
- adnewyddu Theatr Colwyn
- dymchwel yr hen Neuadd Farchnad adfeiliedig
Rydym bellach yn adolygu ac yn diweddaru’r cynigion ar gyfer Canol y Dref.
Nodau ac Amcanion
Nodau’r cynigion yw:
- datblygu amgylchedd fydd yn annog mewnfuddsoddiad
- cynyddu nifer yr ymwelwyr
- darparu gwell cyfleoedd economaidd i fusnesau a phobl leol
Cadarnhaodd Arolwg Perfformiad Canol Tref a gyhoeddwyd yn 2019 bod gwella ymddangosiad canol y dref a lleoedd parcio ymysg blaenoriaethau pennaf busnesau a phobl leol.
Ers dechrau pandemig y coronafeirws yn gynnar yn 2020, mae mwy o bobl bellach yn cerdded ac yn beicio, ac mae angen lle yn y mannau siopa i bobl allu cadw pellter cymdeithasol.
Gyda’r blaenoriaethau hyn mewn golwg, bydd y cynigion sydd wedi’u diweddaru yn:
- Creu canol tref deniadol, nodweddiadol y bydd pobl eisiau treulio amser ynddo – i weithio, i siopa neu i dreulio eu hamser hamdden
- Creu mannau mwy gwyrdd sydd o well ansawdd i bobl gael eu mwynhau, gan gynnwys trawsnewid rhai mannau
- Ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel cyrraedd canol y dref ar droed ac ar feic
- Darparu mannau parcio o ansawdd yn agosach at ganol y dref
- Codi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd gan canol y dref i’w gynnig
- Lleihau effaith traffig wedi’i grynhoi drwy ei wasgaru ar draws rhwydwaith ffyrdd ehangach canol y dref