Mae Conwy wedi bod yn llwyddiannus yn ariannu prosiect Datblygu Lleol dan Arweiniad y Gymuned trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Mae prosiect Datblygu Lleol dan Arweiniad y Gymuned Conwy (CLLD) yn rhoi cyfle i grwpiau wneud cais am arian ar gyfer prosiectau ac astudiaethau dichonoldeb, yn ogystal â mynediad at hyfforddiant a fydd yn elwa eu cymunedau.
Mae CLLD yn fethodoleg sy’n grymuso grwpiau a sefydliadau cymunedol i brofi syniadau arloesol i fynd i’r afael â phroblemau lleol trwy ddatblygu cymwysiadau safonol a’u darparu ar lefel uchel.
Pa broblemau lleol sydd gennych chi a ellir mynd i’r afael â nhw gan y gymuned? Pa brosiectau arloesol a ellir eu peilota neu gomisiynu astudiaethau dichonoldeb er mwyn profi’r datrysiadau a nodir i’r problemau lleol hynny? Mae profi syniadau ar raddfa fach yn rhoi tystiolaeth i wneud cais am grantiau pellach er mwyn datblygu’r cysyniadau hynny yn y gobaith y gall gymunedau gynnal datrysiadau llwyddiannus.
Cyllid cyfyngedig. Darllenwch y canllawiau cyn cysylltu â’r tîm.
Dyddiad cau: 30 Medi 2024.
Cysylltwch â’r tim i drafod syniad y prosiect a chymhwysedd ar gyfer yr arian cyn llenwi’r ffurflen.
E-bost: datblygu.lleol@conwy.gov.uk
Angharad Fenner: 01492 577 824
Cyn cyflwyno eich cais, dyma’r pethau y byddwch eu hangen:
- Dau ddyfynbris am bob eitem/person o wahanol ddarparwyr
- Nodau/targedau’r prosiect
- Sut fydd y prosiect yn cael ei fesur - megis sawl sesiwn/digwyddiad a gaiff eu cynnal
- Nifer y bobl bydd y prosiect yn ei gyrraedd a/neu faint fydd yn mynychu pob sesiwn/digwyddiad
- Bod y prosiectau yn bodloni un neu fwy o’r amcanion a restrir ar ganllawiau’r grant.
Pan na ellir ariannu prosiect:
- Ni allwch dalu eich hun/eich busnes eich hun
- Os nad allwch ddarparu dau ddyfynbris gan wahanol ddarparwyr ar gyfer yr eitem/person
- Eitemau o dan £100
- Nid yw’r prosiect yn bodloni un neu fwy o’r amcanion
Sicrhewch eich bod yn clicio ar ‘save’ ar ôl pob tudalen ac ail-agor ar y ddolen pan fyddwch yn ei arbed.
Gallwch weld beth mae cymunedau yng Nghonwy wedi ei wneud gyda’r cyllid yn y gorffennol.
Gwybodaeth o fis Mai 2023
content
Datblygwyd y prosiect i gynnig cyfarpar casglu sbwriel a chynnig grantiau bychain ar gyfer gwelliannau, cynyddu ymgysylltiad o fewn grwpiau cymunedol a chyfleoedd gwirfoddoli lleol. Bwriad y prosiect oedd datblygu ymdeimlad o le ac urddas mewn cymunedau gwledig.
Roedd y pecynnau casglu sbwriel yn cynnwys 10 cylch, 10 casglwr, siaced lachar, menig a bagiau. Dosbarthwyd y rhain i grwpiau yng nghefn gwlad Conwy, sydd bellach yn cynnal digwyddiadau casglu sbwriel rheolaidd.
Dyrannwyd Grantiau Gwella ar gyfer eitemau amrywiol gan gynnwys paent, blodau, potiau, meinciau, coed ffrwythau a berfâu.
836 o oriau gwirfoddol = £7,336.22
content
Cynllun ar-lein am ddim sy’n darparu hyfforddiant, gwybodaeth ac adnoddau am gynnig twristiaeth Sir Conwy i unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol er mwyn iddynt fedru eu rhannu ag ymwelwyr yw Rhaglen Llysgennad Twristiaeth Conwy. Gyda’r wybodaeth hon, gall Llysgenhadon Twristiaeth Conwy chwarae rôl bwysig yn gwella profiad cyffredinol ymwelwyr. Mae’r modiwlau’n cynnwys testun ffeithiol, delweddau a chyfraniadau gan arbenigwyr o’r Sir gyfan sy’n rhannu eu profiadau, brwydfrydedd, angerdd a gwybodaeth mewn cyfres o fideos byr. Ar ddiwedd bob modiwl, ceir cwis rhyngweithiol y mae’n rhaid ei basio er mwyn derbyn yr archrediad. Mae yna dair lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar faint o fodiwlau a gaiff eu cwblhau.
Y cyrsiau sydd wedi’u cwblhau hyd yma:
- 330 Lefel Aur
- 42 Lefel Arian
- 530 Lefel Efydd
content
Prosiect ar y cyd rhwng y Bartneriaeth Awyr Agored a thîm Hamdden Gwledig CBS Conwy a ariannwyd gan LEADER i dreialu’r defnydd o e-feiciau i annog pobl efallai sydd ddim yn hyderus neu’n teimlo’n gyfforddus mewn campfa i fynd allan a mwynhau’r awyr agored tra’n cymryd rhan mewn rhwybeth mwy cyffrous/anturus na cherdded. Mae beicio yn weithgaredd ymarfer corff rhagorol ar gyfer sawl cyflwr iechyd gan ei fod yn llai heriol ac yn ymarfer corff cardio fasgwlaidd rhagorol yn ogystal â’i fod yn annog unigolion i fynd i’r awyr agored ac yn rhywbeth cymdeithasol i’w wneud yn eu hamser hamdden.
Roedd e-feiciau yn ddatblygiad cymharol newydd yn y byd beicio ar ddechrau’r prosiect. Mae ganddynt fodur trydan bychan, cudd a phwerus gyda batri wedi’i atodi i ffrâm y beic. Er bod ganddynt fodur, nid beiciau modur mohonynt. Maent yn feiciau "cymorth pedalu" sy’n golygu bod rhaid i’r beiciwr feicio i ryw raddau i weithredu’r cymorth gan y modur.
380 o unigolion wedi elwa yn ystod y treial + llawer mwy ers hynny!
Mae E-feicio bellach yn rhan o’r cynnig wythnosol gan Ffit Conwy.
content
Banc amser person i berson oedd Cyfrannu yn Eich Cymuned. Mae’n gyfrwng cyfnewid, gydag amser yn cael ei ddefnyddio fel arian. Am bob awr mae cyfranogwr yn ei roi yn y Banc Amser, efallai drwy roi cymorth ymarferol a chefnogaeth i eraill, maent yn gallu tynnu’r un faint o gefnogaeth allan mewn amser, pan fyddent ei hangen. Ym mhob achos, mae’r cyfranogwr yn penderfynu beth y gallant ei gynnig. Mae amser pawb yn gyfartal, felly mae un awr o fy amser i’n gyfartal ag un awr o’ch amser chi, waeth beth rydym yn dewis ei gyfnewid. Er enghraifft, gall rhywun sy’n siopa i aelod hŷn yna wario’r credyd amser hwnnw ar gael rhywun i dorri eu gwair.
Ar ôl y flwyddyn gyntaf, roedd 51 o bobl ddiamddiffyn hŷn wedi ymaelodi â’r cynllun hwn, a thros 1000 o oriau wedi’u rhannu’n cefnogi ei gilydd i fyw’n annibynnol. Maent wedi ffurfio cyfeillgarwch gwych a fydd yn parhau y tu hwnt i gyllid y prosiect.
Banciwyd cyfanswm o 1000 o oriau gwirfoddol
"Nid yn unig wnaeth y cynllun ei helpu yn ystod cyfnod o alar, mae hefyd wedi gwella ei lles a’i hyder ac wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas iddi, mae hi hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd!"
content
Gweithiodd Conwy Cynhaliol gyda’r Rhwydwaith Cymunedau Ffermio i gynhyrchu llyfryn dwyieithog a fyddai’n targedu ffermwyr a oedd yn gweithio ar eu pennau eu hunain. Rhannwyd y llyfryn dwyiethog hwn â phob ffarm yng Nghonwy, gan anelu at wella iechyd, lles a hunanhyder ffermwyr sy’n byw yn ardaloedd gwledig Conwy. Mae ffermwyr a theuluoedd amaethyddol ar draws y DU yn agored i les meddyliol gwael, gan gynnwys straen, gorbryder ac iselder.
Mae’r Rhwydwaith Cymunedau Ffermio’n sefydliad elusennol a gwirfoddol sy’n cefnogi ffermwyr a’u teuluoedd yn y gymuned ffermio drwy gyfnodau anodd. Mae ganddynt rwydwaith o dros 400 o wirfoddolwyr ar draws Lloegr a Chymru, ac mae nifer ohonoynt yn ffermio eu hunain, neu â chysylltiadau agos gydag amaethyddiaeth, ac felly mae ganddynt ddealltwriaeth dda o’r problemau mae gweithwyr a theuluoedd ar ffermydd yn eu hwynebu’n rheolaidd. Mae’r gwirfoddolwyr yn sefyll ochr yn ochr ag aelodau a’u helpu i ddatrys eu problemau mewn modd cadarnhaol – cyhyd ag sydd ei angen.
content
Bwriad Canolfannau Clyd yw bod yn lleoedd mewn cymunedau lleol lle gall pobl gael amgylchedd diogel a chynnes yn ystod y dydd/gyda’r nos. Bydd hyn yn gymorth i ostwng y gost o gynhesu eu cartrefi ac yn cynorthwyo pobl sy’n wynebu tlodi tanwydd eithafol y gaeaf hwn.
Derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) £39,000 gan LlC/CLlLC i gefnogi Canolfannau Clyd. Cefnogodd y grant 38 o Ganolfannau Clyd ar draws y sir.
- Cefnogwyd 38 o Ganolfannau Clyd
- Cafwyd 2098 o ymweliadau ym mis Ionawr
- Cafwyd dros 2000 o ymweliadau ym mis Chwefror
content
Helpu pwyllgorau adeiladau cymunedol i ddeall eu defnydd ynni yn well a nodi ffyrdd o leihau eu costau a chyfleoedd i ostwng carbon.
Gwnaethpwyd hyn drwy gomisiynu dau gwmni lleol i ymgymryd â’r Archwiliadau Ynni a chynhyrchu Adroddiad ar gyfer bob adeilad cymunedol.
Cwblhawyd cyfanswm o 19 o Archwiliadau. Mae rhai grwpiau wedi llwyddo â’u ceisiadau ar gyfer Cyllid Cymunedau Gwyrdd Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles i ymgymryd â rhai o’r camau awgrymedig ac mae eraill yn canolbwyntio ar gronfeydd Fferm Wynt Brenig a Chlocaenog.