Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Nodiadau Canllaw ar gyfer Canolfannau Clyd 2024-2025

Nodiadau Canllaw ar gyfer Canolfannau Clyd 2024-2025


Summary (optional)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n darparu’r cyllid gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer canolfannau diogel a chlyd y gaeaf hwn 2024-2025.
start content

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid o £1.5 miliwn i gefnogi Canolfannau Cynnes fel lleoedd diogel a chynnes yn y gymuned leol lle y gall pobl fynd yn ystod y gaeaf.

Mae nifer o sefydliadau yn cynnwys awdurdodau lleol, cynghorau cymunedol, grwpiau ffydd, clybiau chwaraeon, a chanolfannau cymunedol eisoes yn darparu, neu’n bwriadu sefydlu Canolfannau Clyd o fewn cymunedau lleol. Pwrpas y cyllid Canolfannau Clyd yw cefnogi llefydd y gall pobl fynd i gadw’n gynnes ac yn ddiogel yn ystod y dydd/gyda’r nos i gefnogi lles economaidd a chymdeithasol pobl ar draws Cymru dros y gaeaf.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi derbyn dyraniad o £56,000 i ddarparu Canolfannau Clyd yng Nghonwy.

Pwy all ymgeisio?

Gall y mathau canlynol o sefydliadau (nid-er-elw) ymgeisio am gyllid cyn belled bod eu prosiectau o fewn sir Conwy:

  • Grwpiau Cymunedol a Gwirfoddol
  • Cynghorau Tref / Cymuned
  • Mentrau cymdeithasol cyn belled eu bod yn gweithredu ar sail nid-er-elw (yn cynnwys undebau credyd).
  • Cydweithfeydd
  • Cwmnïau cymdeithasol
  • Mentrau cymunedol
  • Cwmnïau cyfyngedig drwy warant
  • Cwmnïau budd cymunedol ac ymddiriedolaethau datblygu
  • Elusennau
  • Sefydliadau’r trydydd sector 

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael cyfansoddiad a chyfrif banc. (Bydd yn rhaid darparu copi)

Pa gefnogaeth ariannol sydd ar gael?

  • Gall ymgeiswyr wneud cais am unrhyw swm rhwng £500 a £1000
  • Bydd yn rhaid cynnwys crynodeb o gostau yn y ffurflen gais
  • Nid oes gofyniad arian cyfatebol
  • Mae’n rhaid cwblhau prosiectau erbyn 15 Mawrth 2025

Ar gyfer beth mae modd defnyddio’r cyllid?

Gellir defnyddio cyllid i sefydlu / ailsefydlu gofodau ac ychwanegu gwerth i’r rhai sydd eisoes ar waith gan gefnogi lles economaidd a chymdeithasol pobl yng Nghymru dros y gaeaf.

Bydd y cyllid yn cefnogi llefydd sy’n darparu amgylchedd croesawgar, hygyrch, diogel a chynnes i unigolion. Yn ogystal â chynnig rhywle cynnes ar gyfer preswylwyr, bydd y canolfannau hyn yn darparu amgylchedd agored, croesawgar a chynhwysol ac ar gael i’w defnyddio gan bawb yn y gymuned. Byddant yn nodi ac yn darparu ar gyfer anghenion lleol.

Gallai enghreifftiau gynnwys (ond nid yw hon yn rhestr gyflawn):

  • lluniaeth a byrbrydau syml (fel isafswm) ond fe allent ymestyn y ddarpariaeth i bryd mwy helaeth lle y bo’n bosibl.
  • darparu gwasanaeth cyngor a chymorth i’r rhai sydd yn mynychu, er enghraifft gall hyn fod yn gyngor a chymorth ar faterion ariannol, iechyd a lles neu hygyrchedd digidol.
  • gweithgaredd buddiol pellach megis ymarfer corff, gweithgareddau celfyddydol neu ddiwylliannol (yn amodol ar leoliadau ac argaeledd).
  • cludiant i / o Ganolfannau Clyd - yn dibynnu ar yr angen lleol (gweler y Gymdeithas Cludiant Cymunedol isod)

Cymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA)

Ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol, gall tîm CTA Cymru ddarparu:

  • Gwybodaeth am unrhyw gynllun cludiant cymunedol yn eich ardal, eu horiau agor, meini prawf cymhwyso a’u manylion cyswllt
  • Cyngor a chefnogaeth i sefydliadau sy’n awyddus i sefydlu eu cynllun cludiant cymunedol eu hunain mewn ardaloedd lle nad oes cynlluniau eisoes ar gael. Bydd hyn yn cynnwys cyngor ar nodi’r angen lleol am gynllun cludiant cymunedol. Dulliau cludiant cymunedol gwahanol, ac adnoddau a chanllawiau ymarferol ar gynnal cynllun.
  • Cyngor a chefnogaeth ariannol i sefydliadau sydd eisiau cymorth i ddatblygu cynigion grant ar gyfer cynllun cludiant cymunedol
  • Cysylltu grwpiau sy’n ystyried sefydlu cynllun newydd â chynlluniau cludiant cymunedol presennol i gael cyngor a chefnogaeth cymheiriaid


Gellir cysylltu â thîm Cymru dros e-bost ar wales@ctauk.org a gwefan y CTA yw CTA | Community Transport Association

Sut i wneud cais?

Bydd y ffenestr ymgeisio ar agor am bythefnos o 29 Tachwedd tan 12 Rhagfyr 2024.

Bydd pob cais yn cael ei drafod a’i benderfynu gan banel, gan gynnwys cynrychiolwyr o CBSC a CGGC.  Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod y canlyniad cyn y Nadolig.

Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu’r wybodaeth ganlynol bob mis:

  • Faint o arian a wariwyd ac ar beth
  • Nifer y llefydd a gefnogir
  • Gweithgareddau o fewn y llefydd a gefnogir
  • Faint o bobl sydd wedi cael mynediad at y llefydd a gefnogir
  • Rôl cludiant o ran cefnogi Canolfannau Clyd

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cytuno i’r canllawiau canlynol gan LlC

Gofynion Monitro


Mae’n rhaid i chi:

  • (a) ddarparu i ni’r cyfryw ddogfennau, gwybodaeth ac adroddiadau y gallwn yn rhesymol ofyn amdanynt o bryd i’w gilydd, er mwyn i ni fonitro eich cydymffurfiaeth chi â’r Amodau yn cynnwys:
    • (i) Bydd CLlLC yn cyflwyno adroddiad bob chwarter rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Ebrill 2024 drwy gadarnhau manylion yr adnoddau a ddyrannir i bob awdurdod, y gweithgaredd y mae pob awdurdod yn disgwyl defnyddio’r adnoddau ar ei gyfer, ac unrhyw wariant a gyflawnwyd hyd yma (ac ar beth), sy’n bodloni’r dibenion a amlinellir yn Atodlen 1 ac Atodiad A.
      • a. Beth mae pob Awdurdod Lleol wedi’i wario ac ar beth
      • b. Nifer y llefydd a gefnogir
      • c. Gweithgareddau o fewn y llefydd a gefnogir
      • d. Faint o bobl sydd wedi cael mynediad at y llefydd a gefnogir
  • (b) cyfarfod â Swyddog o Lywodraeth Cymru neu unrhyw gynrychiolydd arall o’r fath y gallwn yn rhesymol ofyn ichi eu cyfarfod o bryd i’w gilydd;
  • (c) sicrhau fod y Rheolwr Prosiect (neu unrhyw unigolyn arall cytunedig) ynghyd ag unrhyw unigolyn arall fel sy’n ofynnol gennym, yn mynychu pob cyfarfod â’r Swyddog Llywodraeth Cymru.

Gofynion Archwilio

  • (a) Mae’n rhaid i chi:
    • i) gynnal cofnodion cyfrifyddu cyflawn, cywir a dilys sy’n nodi’r holl incwm a gwariant mewn perthynas â’r Dibenion;
    • ii) yn ddi-dâl, ganiatáu i unrhyw swyddog neu swyddogion o Lywodraeth Cymru, Archwilio Cymru neu unrhyw gorff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, ar unrhyw adeg resymol ac ar ôl i chi dderbyn cyfnod rhesymol o rybudd (dan amgylchiadau eithriadol, megis atal neu ganfod twyll, efallai na fydd yn ymarferol rhoi rhybudd rhesymol i chi), ymweld â’ch mangre a/neu arolygu unrhyw un neu rai o’ch gweithgareddau a/neu archwilio a gwneud copïau o’ch llyfrau cyfrifon a pha bynnag ddogfennau neu gofnodion eraill, sut bynnag y'u cedwir, a allai, ym marn resymol y swyddog, ymwneud mewn unrhyw ffordd â’r modd y defnyddiwch y Cyllid. Nid yw’r ymgymeriad hwn yn lleihau dim ar effaith unrhyw hawliau a phwerau statudol eraill sy’n arferadwy gan Lywodraeth Cymru, Archwilio Cymru neu unrhyw gorff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, neu unrhyw swyddog, gwas neu asiant unrhyw un o’r uchod, ac y mae’r ymgymeriad yn ddarostyngedig i’r cyfryw hawliau a phwerau statudol hynny;
    • iii) gadw’r llythyr hwn a phob dogfen wreiddiol yn ymwneud â’r Cyllid am ddeng mlynedd o ddyddiad taliad olaf y Cyllid;
  • (b) Dan baragraff 17 Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae gan Archwilydd Cyffredinol Cymru hawliau mynediad eang i ddogfennau a gwybodaeth sy’n ymwneud â’r arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae pŵer ganddo ef a’i swyddogion i’w gwneud yn ofynnol i bersonau perthnasol, sy’n rheoli neu’n dal dogfennau, roi pa bynnag gymorth, gwybodaeth ac esboniadau y gofynnant amdanynt; a’i gwneud yn ofynnol i’r personau hynny ymddangos ger eu bron i’r cyfryw ddiben. Caiff yr Archwilydd Cyffredinol a’i staff arfer yr hawl hon ar unrhyw adeg resymol.

Mae rhagor o wybodaeth a chefnogaeth ar gael drwy gysylltu â:

E-bost: datblygu.lleol@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 577824 / 01492 575946

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?