Yn ystod 2014 - 2020 bydd Cymru’n elwa o bron i £2bn o gyllid o Gronfeydd Buddsoddi Strwythurol Ewrop (ESIF), a fydd yn cefnogi twf economaidd a swyddi drwy:
- Ymchwil ac arloesi
- Gallu Mentrau Bach a Chanolig eu maint i Gystadlu
- Ynni cynaliadwy ac effeithlonrwydd ynni
- Cysylltedd a Datblygu Trefol
- Trechu Tlodi drwy Gyflogaeth Gynaliadwy
- Sgiliau ar gyfer Twf
- Cyflogaeth a Chyrhaeddiad Pobl Ifanc
Yng Nghymru, rheolir y cronfeydd hyn gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Mae Conwy’n rhan o raglen ranbarthol Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, sy'n cwmpasu 15 ardal awdurdod lleol yng Ngogledd a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyllid o ddwy Gronfa Fuddsoddiad Strwythurol Ewropeaidd:
- Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)
- Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)
Bydd Cymru hefyd yn elwa o ystod o raglenni ariannu Ewropeaidd eraill sy'n cwmpasu Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF). Yng Nghonwy, ceir mynediad i hyn trwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig.
Mae’r Fframwaith Flaenoriaethu Economaidd yn ddogfen allweddol i gyd-fynd â’r rhaglenni hyn a datblygu unrhyw brosiectau.
ERDF Port RGB ESF Port RGB