Diweddaraf: Mae prosiectau yng Nghonwy yn elwa o arian o Gronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy UKSPF.
Mae'r gronfa bellach ar gau. Derbyniwyd nifer uchel o geisiadau – derbyniwyd dros 90 o geisiadau, gwerth dros £10m, sy'n sylweddol fwy na'r cyllid oedd ar gael.
Derbyniwyd ceisiadau gan fudiadau bro i gyflenwi prosiectau ar draws Conwy sy’n mynd i’r afael ag anghenion lleol ac yn cyfrannu at adeiladu ‘Balchder Bro’ a ‘gwneud gwahaniaeth gweladwy’ trwy Flaenoriaeth Buddsoddi Cymunedau a Lle Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
content
Mae Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy wedi cael cyfanswm o £24.5 miliwn i’w fuddsoddi a’i wario erbyn mis Mawrth 2025.
Mae rhan o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin graidd wedi’i hymrwymo i sefydlu Cronfeydd Allweddol ar gyfer cefnogi prosiectau Adfywio Cymunedol, ynghyd a Chronfeydd Allweddol ‘Cefnogi Busnesau Lleol’, ‘Pobl a Sgiliau’ a ‘Sector Gwirfoddol’.
Mae Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU (UKSPF) yn rhan o agenda Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: prosbectws - GOV.UK (www.gov.uk)
content
- Mae’r amserlen ar gyfer gyflwyno’r UKSPF yn fyr; mae hyn yn golygu y bydd angen cwblhau pob prosiect a chyflwyno hawliadau terfynol erbyn 30 Tachwedd 2024 fan bellaf, er mwyn caniatáu amser i gau’r rhaglen.
- Dechreuodd y cyfnod cymwys ar gyfer gwariant o dan UKSPF ar 1 Ebrill 2022. Felly gall ymgeiswyr gynnwys elfen o wariant ôl-weithredol yn ei geisiadau. Sylwch y bydd unrhyw wariant a wneir gan ymgeiswyr cyn llofnodi cytundeb cyllid grant yn gyfan gwbl ar eu menter ei hunain.
- Wrth gyflwyno cais byddwch yn awdurdodi’r Cyngor/Cynghorau i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu rhaglen UKSPF. Efallai y bydd wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn y hysbysiad preifatrwydd canlynol: Hysbysiad Preifatrwydd
Gwobrau Grant
Rydym yn y broses o ddyfarnu grantiau – dyma restr o'r prosiectau sydd wedi derbyn cyllid hyd yma:
Ariennir y Gronfa Allweddol Adfywio Cymunedol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau anfonwch e-bost atom ar: community.keyfund@conwy.gov.uk.
I ddarganfod mwy am y Gronfa Ffyniant Cyffredin yng Ngogledd Cymru ewch i: Uchelgais Gogledd Cymru | Cronfa Ffyniant Gyffredin
levelup-logos-e