Mae Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau UKSPF Conwy bellach ar gau i geisiadau.
Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau am brosiectau o dan Ymyriadau Lluosi W44-W53. Am fanylion ar sut i wneud cais e-bostiwch peopleandskillskeyfund@conwy.gov.uk.
Derbynwyd ceisiadau gan sefydliadau ar draws Conwy i gynnal prosiectau a fydd yn cyfrannu at ymyriadau Pobl a Sgiliau a Lluosi (rhifedd oedolion) Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
content
Mae Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy wedi cael cyfanswm o £24.5 miliwn i’w fuddsoddi a’i wario erbyn mis Mawrth 2025.
Mae rhan o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin graidd wedi’i hymrwymo i sefydlu Cronfeydd Allweddol ar gyfer cefnogi prosiectau Adfywio Cymunedol, ynghyd a Chronfeydd Allweddol ‘Cefnogi Busnesau Lleol’, ‘Pobl a Sgiliau’ a ‘Sector Gwirfoddol’.
content
- Mae'r amserlen ar gyfer gyflwyno'r UKSPF yn fyr; mae hyn yn golygu y bydd angen cwblhau pob prosiect a chyflwyno hawliadau terfynol erbyn 30 Tachwedd 2024 fan bellaf, er mwyn caniatáu amser i gau'r rhaglen.
- Dechreuodd y cyfnod cymwys ar gyfer gwariant o dan UKSPF ar 1 Ebrill 2022. Felly gall ymgeiswyr gynnwys elfen o wariant ôl-weithredol yn ei geisiadau. Sylwch y bydd unrhyw wariant a wneir gan ymgeiswyr cyn llofnodi cytundeb cyllid grant yn gyfan gwbl ar eu menter ei hunain.
- Wrth gyflwyno cais byddwch yn awdurdodi'r Cyngor/Cynghorau i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu rhaglen UKSPF. Efallai y bydd wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn ein hysbysiad preifatrwydd.
Dyfarniadau grant
Rydym yn y broses o ddyfarnu grantiau.
Prosiectau Lluosi: grantiau a ddyfarnwyd o 1 Gorffennaf 2024
- Cyllidebu Sgiliau Bywyd:
- Sefydliad: ARC Enterprises Cyf.
- Ardal cyflawni: Bae Colwyn, Llandudno
- Dyfarnwyd: £50,000
- Gwedd Newid (Lluosi):
- Sefydliad: CAB Conwy
- Ardal cyflawni: sir gyfan
- Dyfarnwyd: £84,232.97
- Cymorth Rhifedd Cyflogadwyedd:
- Sefydliad: Conwy County Borough Council
- Ardal cyflawni: sir gyfan
- Dyfarnwyd: £97,354.74
Prosiectau Pobl a Sgiliau: grantiau a ddyfarnwyd o 1 Gorffennaf 2024
- Cymorth Cyflogaeth Gymunedol:
- Sefydliad: Crest Cydweithredol
- Ardal cyflawni: Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn, Llandudno
- Dyfarnwyd: £188,537.25
- Conwy Gyfoethog:
- Sefydliad: Conwy County Borough Council
- Ardal cyflawni: sir gyfan
- Dyfarnwyd: £110,000
- Hyder yn Dy Hun:
- Sefydliad: Conwy County Borough Council
- Ardal cyflawni: sir gyfan
- Dyfarnwyd: £92,561.56
- Sgiliau Gwyrdd:
- Sefydliad: Coed Lleol
- Ardal cyflawni: Llanrwst
- Dyfarnwyd: £52,060
- Gwedd Newid:
- Sefydliad: CAB Conwy
- Ardal cyflawni: sir gyfan
- Dyfarnwyd: £84,232.97
- Ty Enfys:
- Sefydliad: The Sanctuary Trust
- Ardal cyflawni: Bae Colwyn
- Dyfarnwyd: £91,902
- Ymgysylltu â Chyflogadwyedd Pobl Ifanc:
- Sefydliad: Conwy County Borough Council
- Ardal cyflawni: sir gyfan
- Dyfarnwyd: £60,622.39
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost atom yn peopleandskillskeyfund@conwy.gov.uk.
I ddarganfod mwy am y Gronfa Ffyniant Cyffredin yng Nghogledd Cymru ewch i wefan Uwchelgais Gogledd Cymru.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
levelup-logos-e