Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn Mawrth 2025. Mae’r Gronfa’n anelu at wella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a llefydd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
Am ragor o wybodaeth, gweler y prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar wefan GOV.UK.
Byddai’r gronfa’n cefnogi ein busnesau lleol (masnachol a chymdeithasol) gan gynnig grantiau ar gyfer gwella golwg allanol eiddo masnachol, adfywio canol ein trefi a diwygio eu golwg yn gyffredinol.
Byddwn yn ystyried prosiectau yn ôl diffiniad Llywodraeth y DU o dan Ymyrraeth Busnes W16:
- Buddsoddi mewn marchnadoedd agored a gwelliannau i isadeiledd y sector manwerthu a gwasanaeth yng nghanol y dref, gyda chymorth estynedig i fusnesau bychan
a chyflawni’r canlyniadau ac allbynnau canlynol:
- Canlyniadau:
- Cynyddu swm buddsoddiadau
- Allbynnau:
- Nifer yr adeiladau masnachol sydd wedi’u cwblhau neu’u gwella
- Maint y gofod masnachol sydd wedi’i gwblhau neu’i wella
Dogfennau
Cymhwysedd
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth buddsoddi, mae’n rhaid i fusnesau gael eu lleoli yn Sir Conwy, wedi bod yn masnachu dros 6 mis ac wedi cofrestru gyda CaThEF.
Mae'r cynllun yn cynnig cyllid o hyd at 80% ar wariant cyfalaf ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau o £3,000 hyd at £15,000 yn cael eu cynnig.
Gwaith cymwys
Prosiectau sy’n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Blaen siopau gan gynnwys gwelliannau strwythurol mân a chosmetig
- Gwella ffenestri arddangos
- Gwella arwyddion
- Ffenestri a drysau ar gyfer prosiectau mawr
- Goleuadau allanol
- Landeri a phibellau dŵr
- Rendro, glanhau ac atgyweirio cerrig, ail-bwyntio
Mae'r cynllun grant uwch hwn yn ddewisol a bydd yn cael ei weithredu ar sail gyntaf i’r felin yn dibynnu ar argaeledd arian a’r gallu i gwblhau'r prosiect o fewn yr amserlen fanwl.
Bydd yr holl gynigion o gyllid yn amodol ar gymeradwyaeth gan Banel Adolygu Grantiau o’r ceisiadau. Mae hwn yn grant dewisol lle bydd penderfyniad y Panel Adolygu'n un terfynol. Nid oes proses apelio.
Bydd dyddiad cau ceisiadau am grant ym mis Medi 2024 neu ar amser lle fydd y gronfa wedi’i ymrwymo’n gyfan gwbl, os yw’n gynt.
Wedi cadarnhau’r dyfarniad bydd yn rhaid i’r holl gynigion fod wedi’u derbyn a’r arian wedi’i hawlio erbyn 1 Tachwedd 2024 fan bellaf.
Ceisiadau
Bydd ceisiadau'n cael eu gwneud drwy’r ffurflen ar-lein. Ynghyd â’r ffurflen gais bydd angen nifer o ddogfennau ategol eraill.
Darllenwch y ddogfen ganllaw yn llawn i sicrhau bod yr holl wybodaeth ynghlwm cyn cyflwyno’r cais.
Gofynnir i chi siarad ag aelod o’r Tîm Cymorth Busnes cyn cyflwyno unrhyw gais. I siarad ag aelod o’r tîm, anfonwch neges e-bost at busnes@conwy.gov.uk.
Byddwch yn ymwybodol fod y cronfeydd sydd ar gael nawr yn gyfyngedig iawn ac felly ni ellir sicrhau cyllid ar gyfer yr holl geisiadau a dderbynnir.
Gwneud cais
levelup-logos-e