Byddai’r gronfa’n cefnogi ein busnesau lleol (masnachol a chymdeithasol) gan gynnig grantiau ar gyfer gwella golwg allanol eiddo masnachol, adfywio canol ein trefi a diwygio eu golwg yn gyffredinol.
Mae’n rhaid i’r gwaith arfaethedig ddisgyn o fewn o leiaf un o’r categorïau canlynol:
- Atgyweiriadau a gwelliannau cosmetig i du blaen adeiladau sydd mewn cyflwr gwael.
- Ailosod nodweddion pensaernïol neu dreftadaeth sydd wedi’u colli neu eu difrodi sy’n cyfrannu at gymeriad hanesyddol ac ymddangosiad yr ardal.
Mae’r gronfa ar gael i berchnogion rhydd-ddaliadol yr eiddo, neu feddianwyr sydd â phrydles ac sydd wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.
Mae’r cynllun yn cynnig cyllid o hyd at 70% ar wariant cyfalaf ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau o £3,000 hyd at £15,000 yn cael eu cynnig.
Gwaith Cymwys:
Prosiectau sy’n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Blaen siopau gan gynnwys gwelliannau strwythurol mân a chosmetig
- Gwella ffenestri arddangos
- Gwella arwyddion
- Ffenestri a drysau ar gyfer prosiectau mawr
- Goleuadau allanol
- Landeri a phibellau dŵr
- Rendro, glanhau ac atgyweirio cerrig, ail-bwyntio
Mae'r cynllun grant uwch hwn yn ddewisol a bydd yn cael ei weithredu ar sail gyntaf i’r felin yn dibynnu ar argaeledd arian a’r gallu i gwblhau'r prosiect o fewn yr amserlen fanwl. Os dyfernir grant, bydd yn rhaid i’r HOLL waith gael ei gwblhau a’i dderbynebu cyn mis Mawrth y flwyddyn ariannol honno.
Bydd yr holl gynigion o gyllid yn amodol ar gymeradwyaeth gan Banel Adolygu Grantiau o’r ceisiadau. Mae hwn yn grant dewisol lle bydd penderfyniad y Panel Adolygu'n un terfynol. Nid oes proses apelio.
Mae’r Canllawiau’r Grant Eiddo Canol Tref ar gael yma i’w lawrlwytho. Fodd bynnag, i gael rhagor o wybodaeth am y grant, neu i wneud cais, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
I drafod eich cynnig, cysylltwch â:
Katie Minton-Rowlands
Swyddog Prosiect Datblygu ac Adfywio
Rhif Ffôn: 01492 577329
E-bost: regen@conwy.gov.uk
