Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011(MALlC) yw'r mesuriad swyddogol o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bychan yng Nghymru.
Mae'n mesur gwahanol fathau o amddifadedd, a elwir yn 'barthau', i helpu canfod ardaloedd lle mae clystyrau o amddifadedd. Mae canlyniadau holl Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (ACE, rhannau o ranbarthau etholiadol/wardiau) yng Nghymru'n cael eu rhoi yn eu trefn, i roi mesur cymharol o amddifadedd.
Dyma'r ardaloedd yng Nghonwy sydd yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar gyfer pob mesuriad:
- Amddifadedd lluosog (mynegai llawn) - Glyn 2; Tudno 2
- Incwm - Glyn 2; Llysfaen 1; Tudno 2
- Cyflogaeth - Glyn 2; Rhiw 3; Abergele Pensarn; Tudno 2
- Iechyd - Glyn 2; Towyn
- Addysg - dim
- Tai - Gogarth 1; Glyn 2; Pentre Mawr 1; Tudno 2; Craig-y-Don 1; Tudno 1; Rhiw 3; Colwyn 2; Mostyn 1; Mostyn 2; Llandrillo-yn-Rhos 4; Pant-yr-afon/Penmaenan 2; Conwy 1; Gele 1
- Amgylchedd - Bae Cinmel 4; Bae Cinmel 2; Bae Cinmel 1; Bae Cinmel 3; Tudno 1, Conwy 1, Mostyn 2, Towyn, Tudno 2
- Mynediad at wasanaethau - Llansannan; Uwchaled; Uwch Conwy; Llangernyw; Betws yn Rhos; Eglwysbach
- Diogelwch cymunedol - Glyn 2; Llysfaen 1; Gogarth 1; Glyn 1
Gallwch weld mwy o wybodaeth (gan gynnwys mapiau) yn y bwletin ymchwil hwn, neu drwy glicio yma i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar safle Llywodraeth Cymru.
Rhowch wybod i ni os oes unrhyw wybodaeth ystadegol arall rydych yn credu y byddai'n ddefnyddiol ei chynnig ar y wefan hon.