Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011(MALlC) yw'r mesuriad swyddogol o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bychan yng Nghymru. Mae'n mesur gwahanol fathau o amddifadedd, a elwir yn 'barthau', i helpu canfod ardaloedd lle mae clystyrau o amddifadedd. Mae canlyniadau holl Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (ACE, rhannau o ranbarthau etholiadol/wardiau) yng Nghymru'n cael eu rhoi yn eu trefn, i roi mesur cymharol o amddifadedd.
Dyma'r ardaloedd yng Nghonwy sydd yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar gyfer pob mesuriad:
- Amddifadedd lluosog (mynegai llawn) - Abergele Pensarn 2; Glyn 2; Tudno 2; Llysfaen 1
- Incwm - - Llysfaen 1; Tudno 2; Glyn 2; Abergele Pensarn 2
- Cyflogaeth - Abergele Pensarn 2; Glyn 2; Rhiw 3; Tudno 2
- Iechyd - Abergele Pensarn 2
- Addysg - Bae Cinmel 1; Tudno 2; Abergele Pensarn 2
- Mynediad at wasanaethau - Uwchaled; Llansannan; Uwch Conwy; Llangernyw; Eglwysbach; Betws yn Rhos; Caerhun; Trefriw; Betws-y-Coed
- Diogelwch cymunedol - Glyn 2; Mostyn 2; Gogarth 1; Rhiw 3; Tudno 1
- Amgylchedd ffisegol - dim
- Tai - Llysfaen 1; Glyn 1; Gogarth 1; Glyn 2; Abergele Pensarn 2; Llangernyw; Mostyn 2; Tudno 2; Llysfaen 2; Uwch Conwy; Tudno 1
Gallwch weld mwy o wybodaeth (gan gynnwys mapiau) drwy glicio yma i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar safle Llywodraeth Cymru.
Rhowch wybod i ni os oes unrhyw wybodaeth ystadegol arall rydych yn credu y byddai'n ddefnyddiol ei chynnig ar y wefan hon.