Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pwyllgorau a Chyfarfodydd Penodiadau Pwyllgor Penodi Aelod Annibynnol - Pwyllgor Safonau (dim lleodd gwag cyfredol)

Penodi Aelod Annibynnol - Pwyllgor Safonau


Summary (optional)
start content

Penodi Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n dymuno penodi unigolyn ymroddgar i wasanaethu fel Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.  Gwahoddir ceisiadau gan rai â diddordeb sy’n uchel eu parch yn y gymuned ac nad ydynt yn wleidyddol; sy’n graff ac yn gywir ac sydd â chymeriad da ac union a’r gallu i gynnal cyfrinachedd.

I wneud cais bydd angen i chi allu mynychu o leiaf 4 cyfarfod bob blwyddyn. Cynhelir cyfarfodydd yn ystod y diwrnod gwaith ym Modlodneb, Conwy, gydag opsiwn i fynychu o bell. Bydd Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau yn cael eu talu.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.conwy.gov.uk ac i gael ffurflen gais, cysylltwch â Gwasanaethau Pwyllgorau drwy ffonio 01492 576061 neu anfon e-bost at pwyllgorau@conwy.gov.uk.

Dyddiad cau: 03/08/2023; bydd cyfweliadau ar 14/08/2023 a phenodiadau ar 19/10/2023

Pecyn Gwybodaeth (PDF)

 

Ar ôl i chi wneud cais i fod yn Aelod Annibynnol

Byddwn yn ystyried pob cais a dderbyniwn ac yn cysylltu ag ymgeiswyr i ddarparu mwy o wybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â committees@conwy.gov.uk

end content