Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd a phrofiadau i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc, drwy ddod yn aelodau o’r Panel Apêl Annibynnol ar gyfer apelau derbyn i ysgolion.
Os gwrthodir lle i blentyn mewn ysgol, gan fod grŵp blwyddyn yn llawn/gorlawn, gall rhiant/gofalwr apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Bydd y Panel Apêl Annibynnol yn cwrdd i ystyried gwybodaeth gan yr ysgol a’r rhiant/gofalwr, er mwyn penderfynu a ddylid dyfarnu lle ai peidio yn yr ysgol honno yn unol â Chod Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Mae’r Paneli hyn yn cyfarfod yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn ac mae’r cyfnod prysuraf rhwng mis Mai a mis Medi. Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol, gan y bydd pob aelod panel newydd yn derbyn hyfforddiant llawn cyn cymryd rhan mewn apêl, a bydd hyfforddiant gloywi hefyd yn cael ei ddarparu bob 3 blynedd.
Rydym yn chwilio am aelodau o unrhyw un o’r categorïau gofynnol:
- Aelod Lleyg – y sawl nad oes ganddynt brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (caniateir pobl gyda phrofiad ym maes addysg mewn swydd wirfoddol neu fel llywodraethwr).
- Aelod Addysg – os oes gennych chi brofiad ym maes addysg, neu wybodaeth am yr amodau addysgol yn ardal yr awdurdod lleol, neu os ydych chi’n rhiant i blentyn sydd wedi’i gofrestru mewn ysgol arall.
Caiff aelodau panel eu cefnogi gan glerc hyfforddedig ym mhob gwrandawiad, er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn, fel y nodir yng Nghod Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Sylwch nad yw’r canlynol yn gymwys i gael eu penodi fel aelodau o’r Panel Apêl Annibynnol:
- Unrhyw aelod o’r Cyngor (e.e. Cynghorwyr), neu Gorff Llywodraethu’r ysgol dan sylw.
- Unrhyw un a gyflogir gan yr ALl neu’r Corff Llywodraethu, ac eithrio athro/athrawes o ysgol arall.
- Unrhyw unigolyn sydd â chysylltiad neu sydd wedi bod ag unrhyw gysylltiad rhyw dro â’r ALl neu’r ysgol (e.e. cyn aelodau o’r Corff Llywodraethu), neu unrhyw un o aelodau neu weithwyr yr ALl neu’r Corff Llywodraethu, y gellid yn rhesymol gwestiynu ei (g)allu i weithredu’n ddiduedd o ran yr ALl neu’r ysgol. Nid yw cael ei gyflogi fel athro gan yr ALl yn ddigon o reswm dros wahardd rhywun rhag bod yn aelod – oni bai bod rheswm arall dros gwestiynu ei allu i weithredu mewn modd diduedd.
I gael rhagor o wybodaeth ac am ffurflen gais, anfonwch e-bost at committees@conwy.gov.uk.