- Ydych chi’n angerddol ynghylch eich cymuned leol?
- Oes yna rywbeth rydych chi am ei newid?
- Ydych chi’n barod i gymryd penderfyniadau heriol?
Beth am sefyll dros yr hyn sy’n bwysig i chi a dod yn gynghorydd lleol?
Mae cynghorwyr yn cael eu hethol gan bobl yn eu cymuned i’w cynrychioli ac i wneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae bod yn gynghorydd yn foddhaol, yn heriol ac yn bleserus a gallwch chi newid bywydau pobl er gwell. Mae’n bwysig bod cynghorwyr yn debyg i’r bobl sy’n eu hethol er mwyn iddynt gael cynrychioli pob barn wahanol yn y gymuned a chymryd penderfyniadau sydd o fudd i bawb.
Beth am wylio fideos a darllen astudiaethau achos gan gynghorwyr amrywiol yn disgrifio eu rolau ac yn egluro pam eu bod wedi sefyll mewn etholiad?
Neu, os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y modiwl e-ddysgu ar gyfer ymgeiswyr i ddysgu mwy.
Mae modd canfod a ydych yn gymwys ar gyfer Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig sydd ar gael i bobl anabl sy’n sefyll mewn etholiad.
Papurau enwebu i fod yn Gynghorydd a mwy o wybodaeth am sefyll ar gyfer etholiad ar gael yma
Etholiadau lleol yng Nghymru l Comisiwn Etholiadol
Dysgwch fwy! Gallech chi fod yn Gynghorydd!