
Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn wasanaeth pwrpasol ar gyfer helpu pobl ifanc rhwng 16-20 oed sy’n byw yn Sir Conwy gyda:
- Mentoriaid cyflogaeth penodol sy’n cynnig cyngor am waith, swyddi a budd-daliadau
- Mentora personol un-i-un, wedi’i addasu i’r unigolyn
- Cyrsiau hyfforddi am ddim wedi’u cyflwyno gan hyfforddwyr proffesiynol i feithrin sgiliau
- Digwyddiadau hwyliog, am ddim i fagu hyder a gwella iechyd meddwl, wrth ddatblygu sgiliau lles am oes
- Cefnogaeth ar gyfer y sawl sy’n dymuno parhau mewn addysg
- Cymorth ag ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni cais am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
- Cefnogaeth ariannol i oresgyn rhwystrau i hyfforddiant a gwaith: Benthyca Chromebook a dongle wifi, costau teithio, dogfennau adnabod
- Ymgysylltu â’r Gymuned a Chyflogwyr: Digwyddiadau, ymgyrchoedd recriwtio, cyfleoedd gwaith, lleoliadau gwaith a chyrsiau ar Lwybrau gyrfa
Atgyfeiriadau at sefydliadau partner/asiantaethau eraill lle bo hynny’n briodol.
Os ydych chi rhwng 16-20 oed ac eisiau cymorth a chefnogaeth gennym, neu’n adnabod rhywun sydd eisiau, gallwch gysylltu â ni trwy’r ffyrdd canlynol:
Gadewch i ni eich helpu i danio’ch dyfodol disglair!
