Astudiaethau achos
Mark
Ar ôl colli ei swydd, roedd Mark allan o waith am y tro cyntaf, ac er bod ganddo hanes cyflogaeth cryf o weithio ym maes manwerthu, gwerthiant a gofal cymdeithasol, roedd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i swydd newydd. Wrth sylweddoli bod angen help arno i gael gwaith, cysylltodd Mark â’r Canolbwynt i gael cefnogaeth.
Darllenwch yr astudiaeth achos Mark yn llawn
Debbie
Cafodd Debbie ei hatgyfeirio i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy gan Cymru’n Gweithio, gan fod ei hyder a’i hunan-gred wedi dioddef wrth weithio i’w chyn-gyflogwr oherwydd bod y diwylliant yn wenwynig yno.
Darllenwch yr astudiaeth achos Debbie yn llawn
Ann
Yn fam i 3 o blant ifanc ac yn ofalwr rhan-amser i’w gŵr, roedd Ann yn ddealladwy yn ei chael yn anodd nid yn unig i ganfod swydd ond hefyd i benderfynu ar ba lwybr i’w gymryd o ran gyrfa ac roedd hyn, yn ogystal â delio â’i chyfrifoldebau, yn cael effaith ar ei hyder.
Darllenwch yr astudiaeth achos Ann yn llawn
Craig
Cyfeiriodd DWP Craig at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy gan y teimlwyd bod tîm y Ganolfan o fentoriaid a chynghorwyr ymroddedig yn fwy addas i'w helpu gyda'i broblemau iechyd meddwl a lles.
Darllenwch yr astudiaeth achos Craig yn llawn
Lauren
Mae Lauren yn ddynes 32 oed gyda nifer o rwystrau, gan gynnwys problemau iechyd, a oedd yn ei hatal rhag cael gwaith. Cafodd ei chyfeirio at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy yn ystod y cyfnod clo Covid cyntaf ym mis Mawrth 2020, gan y teimlwyd bod y Canolbwynt yn fwy addas i gynnig y cyngor a’r mentora ymroddedig roedd ei angen arni.
Darllenwch yr astudiaeth achos Lauren yn llawn
Marie
Mae Marie yn rhiant sengl i ddau o blant bach ac mae’n dioddef gyda’i iechyd meddwl yn sgil gorbryder llethol.
Darllenwch yr astudiaeth achos Marie yn llawn
Chris
Roedd ar Chris eisiau gweddnewid ei fywyd ac roedd arno angen cefnogaeth y Canolbwynt i ddilyn yr un yrfa â’i dad a dod yn yrrwr HGV.
Darllenwch yr astudiaeth achos Chris yn llawn
David
Roedd ar David angen cymorth Canolbwynt Cyflogaeth Conwy i’w helpu i gael trwydded yrru Cerbyd Cludo Pobl (PVC) a gwaith fel gyrrwr coetsis.
Darllenwch yr astudiaeth achos David yn llawn
Lee
Roedd anaf cefn yn golygu bod gyrfa 24 mlynedd Lee fel gyrrwr bysiau a coetsys wedi dod i ben, ac ar ôl 16 mis o ddiweithdra cafodd ei gefnogi gan Hwb i gael gwaith fel gweithiwr cefnogi Gofal Cymunedol.
Darllenwch yr astudiaeth achos Lee yn llawn