Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth achos: Gareth


Summary (optional)
start content

Ar ôl cael trawiad ar y galon deirgwaith a chael mewnblannu dyfais reoli yn ei frest, sylweddolodd Gareth fod arno angen dod o hyd i waith llai corfforol a fyddai’n dal yn rhoi cyfle iddo arfer ei sgiliau helaeth, ac felly fe drodd at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy am gymorth.

Roedd Gareth yn meddu ar brofiad ac arbenigedd ym maes gwifrau, logisteg a chyfathrebu ac wedi colli ei waith yn ddiweddar. Oherwydd ei brofiad helaeth, ei hanes ardderchog gydol ei yrfa a’r ffaith ei fod o hyd yn rhagori a gwella ei sgiliau drwy hyfforddiant, gallai Gareth fwrw ymlaen a gwireddu ei freuddwyd o fod yn uwch-oruchwyliwr, ond er bod ganddo rywfaint o brofiad roedd arno angen gwella ei sgiliau a chwblhau cwrs SSSTS (Cynllun Hyfforddiant Goruchwylio Safleoedd yn Ddiogel) er mwyn cael gwell cyfle o lwyddo wrth ymgeisio am swyddi.

Roedd Gareth eisoes yn meddu ar CV rhagorol a oedd yn nodi ei holl sgiliau a’i brofiad, ac felly bu modd i Lorraine, ei fentor, fynd ati ar unwaith i chwilio am ddarparwyr hyfforddiant a gynigiai’r cwrs SSSTS a chael gwybod beth oedd eu prisiau, cyn cyflwyno cais am gyllid i dalu am y cwrs.

Cymeradwywyd y cais hwnnw a chafodd Gareth le ar y cwrs nesaf oedd ar gael gyda WOW Training. Cynhaliwyd y cwrs yng Nghaergybi ym mis Mai 2024 ac ychydig ddiwrnodau wedi iddo gael ei dystysgrif, ymgeisiodd Gareth am swydd Goruchwyliwr Safle gyda’r cynllun HS2 yn Birmingham. Fe lwyddodd â’i gais a chael ei wahodd am gyfweliad, a oedd yn cynnwys asesiad meddygol.

Gallai Lorraine ddarparu cyllid i dalu am betrol i Gareth fynd i Birmingham am y cyfweliad a dod yn ôl, a darparodd ei hyfforddwr swyddi yn y Ganolfan Waith arian i dalu am lety - a allai fod am ddeg diwrnod, gan y byddai’n dechrau’r swydd ar unwaith pe byddai’n llwyddo yn y cyfweliad a bod y prawf meddygol yn glir.

Ar 10 Mehefin, cafodd Gareth wybod ei fod wedi llwyddo yn y cyfweliad a’r prawf meddygol a dechreuodd weithio fel Goruchwyliwr Safle gyda Hercules Site Services ar 11 Mehefin.

Wrth sôn am ei swydd newydd, dywedodd Gareth: “Mae’n mynd yn dda iawn. Dwi wedi dal ati efo’r hyfforddiant a phasio dipyn o gyrsiau, a dwi wir yn teimlo fel aelod gwerthfawr o’r tîm.”

Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content