Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth achos: Lauren


Summary (optional)
start content

Mae Lauren yn ddynes 32 oed oedd â nifer o rwystrau, gan gynnwys problemau iechyd, oedd yn ei hatal rhag cael gwaith. Cafodd ei chyfeirio at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy yn ystod cyfnod clo cyntaf Covid ym mis Mawrth 2020, gan fod cred y byddai'r Canolbwynt yn fwy addas i gynnig y cyngor angenrheidiol iddi a'r mentora penodol roedd ei angen.

Roedd Lauren yn ceisio goresgyn ei rhwystrau ac roedd wedi cymryd y cam cadarnhaol o sicrhau lle yn y coleg i astudio tuag at gymhwyster Lefel 1 yn Iaith Arwyddion Prydain.  Fodd bynnag, yn sgil Covid, darparwyd yr hyfforddiant ar-lein ac roedd Lauren yn cael trafferth cadw ei bywyd ar y trywydd iawn.

Bu i Mel, mentor Lauren o Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy, adnabod ei phroblemau a thrafod y dewis i ohirio ei lle yn y coleg tan y byddai’n gallu dysgu wyneb yn wyneb unwaith eto, a chytunodd Lauren i wneud hynny.  Fodd bynnag, roedd eisoes wedi talu am ei hyfforddiant ac roedd methu â chael ei harian yn ôl yn achosi cryn straen iddi. Felly gweithiodd Mel gyda hi ar gysylltu â’r coleg, ac fe lwyddon nhw i gael ad-daliad iddi a chael gohirio ei lle yno am flwyddyn.

Mae Mel hefyd wedi sicrhau swydd wirfoddol i Lauren (sydd hefyd wedi’i gohirio yn sgil Covid) mewn sefydliad lleol sy’n cynnig gwasanaethau ar gyfer pobl fyddar, er mwyn i Lauren gael y profiad gwaith sydd ei angen arni i ymgeisio am swyddi ar ôl cwblhau ei chymhwyster Lefel 1 yn Iaith Arwyddion Prydain. Yn ogystal, mae wedi sicrhau lle iddi ar gwrs ar-lein wedi’i achredu sy’n ymwneud â lles a hyder, a chwrs celf greadigol sydd hefyd yn canolbwyntio ar les, ymlacio a hyder, ac mae Lauren wedi rhagori arno ac wedi creu gwaith celf hyfryd.

I helpu Lauren gyda’i phroblemau iechyd, mae Mel hefyd wedi bod yn cydweithio â’r Siop Cyngor ar Fudd-daliadau, sydd wedi helpu Lauren i wneud cais am “Daliad Annibyniaeth Bersonol” a fydd o gymorth iddi yn ei bywyd bob dydd yn sgil ei phroblemau symud.

Meddai Mel: “Mae’r trawsnewidiad yn Lauren wedi bod yn anhygoel.  Mae hi bellach yn hyderus ac yn gymdeithasol, ac ar ôl ennill cymaint o sgiliau newydd, mae ei bywyd yn ôl ar y trywydd iawn ac mae’n canolbwyntio ar y dyfodol llewyrchus sydd o’i blaen.”

Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content