Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth achos: Debbie


Summary (optional)
start content

Cafodd Debbie ei hatgyfeirio i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy gan Cymru’n Gweithio, gan fod ei hyder a’i hunan-gred wedi dioddef wrth weithio i’w chyn-gyflogwr oherwydd bod y diwylliant yn wenwynig yno.

Cyn gynted â phroseswyd yr atgyfeiriad, penodwyd Lorraine yn fentor i Debbie, a bu i’r ddwy gwrdd o fewn rhai dyddiau. Roedd hi’n amlwg i Lorraine fod swydd ddiwethaf Debbie wedi effeithio’n fawr ar ei hyder, felly roedd hi am bwysleisio y byddai’n cynnig cefnogaeth un i un iddi, a’i helpu mewn unrhyw ffordd i ddychwelyd i’r byd gwaith, gan amlygu’r ffaith fod Debbie wedi cymryd cam rhagweithiol a chadarnhaol tuag at ei dyfodol drwy adael ei swydd ddiwethaf.

Gyda dau o blant yn eu harddegau, a gŵr sy’n gweithio oddi cartref, mae Debbie wedi gallu gweithio o amgylch anghenion ei phlant bob amser, a chyda cyfoeth o brofiad ar ôl gweithio yn y meysydd lletygarwch, gwallt a harddwch, arlwyo ac fel Cymhorthydd Addysgu, roedd Lorraine yn gallu amlygu i Debbie fod ganddi ystod eang o sgiliau, y gellir eu trosglwyddo’n rhwydd, gan roi digon o ddewisiadau gwaith/gyrfa iddi.  Er hyn, roedd Debbie’n pryderu, gan nad oedd hi’n sicr beth roedd hi eisiau ei wneud, heblaw am wybod ei bod hi eisiau swydd a fyddai’n ei bodloni.

Camau cyntaf Lorraine gyda Debbie oedd ei helpu i wneud cais am gefnogaeth budd-daliadau, gan nad oedd hi eisoes wedi derbyn cymorth, a byddai’r arian, yn y tymor byr hyd yn oed, yn ei helpu i fod yn annibynnol, wrth iddi weithio ar ei CV.  Roedd amlygu ei phrofiad yn dangos i Debbie faint sydd ganddi i gynnig i gyflogwyr, ac am y tro cyntaf, roedd Debbie’n gallu gwenu, a chael hyder am ei dyfodol.

Trefnodd Lorraine bod Debbie’n cwrdd ag Alice, Swyddog Ymgysylltu Cyflogwyr y Canolbwynt, a gan gydweithio, roeddent yn llwyddiannus yn helpu a chefnogi Debbie wrth wneud cais am swyddi.  Hysbysebwyd swydd wag ar gyfer Cynorthwy-ydd Llyfrgell o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a rhoddodd Alice gymorth i Debbie gyda chwblhau’r broses ymgeisio, ac o fewn dim, cafodd wahoddiad i gyfweliad. Roedd Debbie’n nerfus, ond cynhaliodd Lorraine ac Alice nifer o ffug gyfweliadau gyda hi, er mwyn rhoi ymarfer a hyder i ateb cwestiynau, yn ogystal â darparu awgrymiadau ychwanegol iddi ar sut i ateb cwestiynau.  Roedd y cyfweliad yn llwyddiant, a chafodd Debbie gynnig y swydd.  Yn y cyfamser, roedd Debbie wedi gwneud cais am swydd gydag asiant tai lleol hefyd, ac wedi bod yn llwyddiannus yn y cyfweliad hwnnw, ac aeth ymlaen i gwblhau treial gwaith, ac i’w syndod, cafodd gynnig y swydd honno hefyd. Gyda dau gynnig ar gyfer swyddi amrywiol, bu i Debbie ystyried y ddwy, a phenderfynu cymryd y swydd gyda’r asiant tai, gan ei bod yn rhoi cyfle iddi weithio mewn amgylchedd hollol wahanol, a’i galluogi i ddatblygu gyrfa.

Mae Debbie’n cadw mewn cysylltiad gyda Lorraine ac Alice, ac mae hi wrth ei bodd yn ei swydd newydd, sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w hyder a’i hagwedd ar fywyd.

Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content