Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth achos: Ken


Summary (optional)
start content

Cyfeiriodd Ken ei hun i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy yn niwedd Ionawr 2024 ar ôl cymryd diswyddiad gwirfoddol o weithio yn y chwareli am dros 30 mlynedd.  Gan ei fod yn mynd yn hŷn roedd yn sylwi bod y swydd yn mynd yn heriol iawn, felly roedd yn teimlo ei bod yn amser am newid gyrfa yn llwyr. Ond roedd angen cefnogaeth i’w helpu i ddod o hyd i’w swydd ddelfrydol.

Unwaith i’r atgyfeiriad gael ei brosesu, cafodd Lorraine ei phenodi fel mentor Ken ac fe gafodd y pâr eu cyfarfod cyntaf o fewn diwrnodau.  Ar ôl gweithio trwy gydol ei fywyd, roedd Ken yn awyddus iawn i fynd yn ôl i gyflogaeth cyn gynted â phosibl ac roedd wedi bod yn rhagweithiol iawn yn ymchwilio am gyfleoedd gyrfa a chofrestru ar gyfer cyrsiau hyfforddi perthnasol, gan gynnwys Hyfforddiant Gweithredu CCTV (Goruchwylio Mannau Cyhoeddus) y Canolbwynt a ariennir gan Lywodraeth y DU trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a gwneud cais am hyfforddiant i ddod yn Hyfforddwr Gyrru Hunangyflogedig gyda chefnogaeth gan Gyrfa Cymru a’u cyllid ReAct sydd ar gael i bobl sydd wedi colli eu swyddi.

Llwyddodd Ken i gwblhau cwrs pedwar diwrnod CCTV ond cafodd gyngor gan Lorraine i barhau ei hyfforddiant er mwyn cael trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch., gan y byddai hyn o fantais ychwanegol wrth chwilio am swydd, ac fe gytunodd i wneud hyn.  O fewn tair wythnos, roedd wedi pasio ei gwrs CCTV a’r cwrs Goruchwyliwr Drws Awdurdod y Diwydiant Diogelwch gyda rhagoriaeth.  Cynhaliwyd y ddau gwrs gan y Canolbwynt a’u hwyluso gan ALG Security ym Mae Colwyn, a roddent yn cynnwys cyfle i gyfranogwyr gwrdd â chyflogwyr lleol a oedd yn fanteisiol iawn i Ken oherwydd fe wnaeth gysylltiadau gwych.

Y cam nesaf ar gyfer Ken a Lorraine oedd creu ei CV, a gan nad oedd erioed wedi bod yn ddi-waith, roeddent yn dechrau o’r dechrau, ac roedd yn hanfodol bod holl sgiliau Ken yn cael eu hamlygu, yn ogystal â’i foeseg gwaith rhagorol. Yn ystod y cyfnod hwn, fe lwyddodd Ken i basio rhan gyntaf ei hyfforddiant Hyfforddwr Gyrru, sef yr elfen theori a dechreuodd gael gwersi ymarferol gyda hyfforddwr.

Gyda’r cymwysterau hyn, roedd Ken yn barod i chwilio am swydd, felly gyda Lorraine, fe wnaethant ymchwilio i gwmnïau diogelwch / CCTV lleol, a chyflwynodd Lorraine ef i Alice, Swyddog Ymgysylltu Cyflogwyr y Canolbwynt a wnaeth ychydig o gysylltiadau ar gyfer Ken gyda chyflogwyr lleol.  Yn gyflym iawn cafodd wahoddiad i gyfweliad gyda chwmni diogelwch lleol, ac er mwyn paratoi, cafodd hyfforddiant cyfweliad ffug gyda Lorraine ac Alice.  Aeth y cyfweliad yn dda iawn, a chafodd gynnig gwaith a fyddai’n dechrau unwaith iddo dderbyn ei dystysgrif trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch.

Yn y cyfamser, dechreuodd Ken wneud rhai shifftiau ar gyfer cwmni arall mewn amryw o leoliadau, gan gynnwys gyrru ar gyfer cwmni teledu lleol, defnyddio ei hyfforddiant CCTV i weithio shifftiau nos mewn llety digartref lleol, a hefyd gweithio mewn lleoliadau twristiaeth/hamdden lleol.  Rhoddodd hyn gyfle i Ken brofi amrywiaeth o rolau a lleoliadau fel y gallai wneud penderfyniad gwybodus am y llwybr yr oedd eisiau ei gymryd.

Cyn hir, dechreuodd Ken weithio mewn rôl llawn amser a oedd yn rhoi cydbwysedd rhagorol rhwng gwaith a bywyd iddo, gan y byddai’n gweithio pedwar shifft nos 12 awr, gyda phedwar diwrnod i ffwrdd er mwyn ei alluogi i barhau â’i wersi gyrru a threulio amser gyda’i ferch ifanc.

Cadwodd Lorraine mewn cysylltiad â Ken ac roedd yn falch iawn o glywed ei fod yn mwynhau’r swydd ac yn ddiolchgar iawn am gymorth, cefnogaeth ac arweiniad y Canolbwynt:

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi ac Alice am eich holl gefnogaeth dros y misoedd diwethaf ers dod yn ddi-waith. Ar ôl bod mewn gwaith ers gadael ysgol a dod yn ddi-waith yn sydyn, ni fuaswn i wedi gallu mynd trwy’r cyfnod hwn heb gefnogaeth Canolbwynt Cyflogaeth Conwy.  Roedd yr hyfforddiant, cefnogaeth, cyngor a chanllawiau, gan gynnwys cymorth gyda fy CV a thechnegau cyfweld, wedi fy helpu i gael cyflogaeth llawn amser mewn gyrfa newydd a chyffrous mewn diogelwch.  Gan fy mod bellach oddi ar y llyfrau, hoffwn ddiolch i chi unwaith eto, a heb Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy mi fuaswn i yn dal i fod ar gredyd cynhwysol.”

Os hoffech i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content