Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth achos: Ann


Summary (optional)
start content

Yn fam i 3 o blant ifanc ac yn ofalwr rhan-amser i’w gŵr, roedd Ann yn ddealladwy yn ei chael yn anodd nid yn unig i ganfod swydd ond hefyd i benderfynu ar ba lwybr i’w gymryd o ran gyrfa ac roedd hyn, yn ogystal â delio â’i chyfrifoldebau, yn cael effaith ar ei hyder.

Pan gyfeiriwyd Ann at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy roedd ganddi ddiddordeb i ddechrau mewn edrych ar y posibilrwydd o weithio fel cymhorthydd addysgu ac felly fe gofrestrodd ei Mentor, Mel, hi ar gwrs rhan-amser yng Ngholeg Llandrillo. Ond yn gynnar iawn fodd bynnag fe ddaeth yn amlwg nad oedd hyn yn mynd i weithio i Ann, gan y byddai’n rhaid iddi un ai deithio o’i hardal i gael gwaith neu weithio yn ysgol ei phlant ei hun.

Penderfynodd Mel ac Ann mai’r pwynt cychwyn gorau fyddai i weithio ar CV Ann ac er bod nifer o’r busnesau roedd wedi gweithio gyda nhw wedi rhoi’r gorau i fasnachu, cafodd ystod ei phrofiad mewn amryw o wahanol rolau a swyddi eu defnyddio i greu CV a oedd yn creu argraff.  Er fod hyn wedi chwarae rhan allweddol yn hybu hyder Ann, fe gyfaddefodd i Mel y byddai’n ei chael yn anodd gyda chyfweliadau wyneb yn wyneb. Gan nad yw’n anarferol i gyfranogwyr y Canolbwynt fod â diffyg hyder a hunan gred, sylweddolodd Mel yn fuan beth oedd Ann ei angen a threfnodd iddi fynd ar gwrs lles a hyder yng Ngholeg Llandrillo a oedd yn llwyddiant ysgubol a rhoddodd i Ann yr hunan sicrwydd i ddechrau ymgeisio am swyddi.

Fe ddaeth yna swydd gydag archfarchnad fawr fel siopwr ar-lein gydag 20 awr o waith yr wythnos a oedd yn cychwyn am 4am ac yn gorffen am 8am a oedd yn addas i Ann gan ei fod yn golygu y byddai’n gallu mynd â’r plant i’r ysgol a threulio amser gyda’i phlant a’i gŵr gyda’r nos. O fewn awr o gyflwyno’r cais cafodd Ann gynnig cyfweliad ac aeth hi a Mel ati i ymchwilio i’r wybodaeth gefndir yn ymwneud â’r archfarchnad a gweithio ar dechneg cyfweliad Ann.

Fe aeth y cyfweliad yn dda iawn ac er i’r archfarchnad roi gwybod iddi fod yr oriau wedi eu lleihau i 16 awr, roedd Ann yn parhau yn awyddus iawn ac felly roedd wrth ei bodd pan gynigiwyd y swydd iddi dri diwrnod yn ddiweddarach. Byddai’r archfarchnad yn rhoi top a siaced waith i Ann ond gan fod angen iddi brynu esgidiau ymarfer cyfforddus a thrywsus du, cyflwynodd Mel gais i’r gronfa rwystr am yr eitemau hyn a chymeradwywyd y cais.

Fodd bynnag, pan gyrhaeddodd y contract roedd yr oriau wedi eu gostwng eto i ddim ond 12 awr ac er ei bod yn ddealladwy yn siomedig iawn, roedd Ann yn gwybod fod yr archfarchnad yn gwmni da i weithio iddynt ac y byddai yn cael profiad gwych a fyddai’n ei helpu i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth llawn amser yn y dyfodol.

Ers cychwyn yn yr archfarchnad mae Ann wedi profi i fod yn siopwr rhagorol. Mae’n cymryd balchder yn y dasg o siopa ar gyfer eu cwsmeriaid fel pe bai hi’n siopa iddi hi ei hun, gan ddewis y cynnyrch mwyaf ffres sydd i gyd ymhell o fewn y dyddiadau olaf o ran gwerthu. Mae ei horiau wedi cynyddu dros amser ac yn ddiweddar mae wedi dod yn aelod parhaol o’r tîm sydd i gyd yn glod iddi hi a’i gwaith caled. Mae ei hyder wedi datblygu ac mae hi yr un mor frwdfrydig â’r diwrnod y cychwynnodd ac yn fwy na hynny hi yw’r cyflymaf am gwblhau ei rhestrau siopa o’r holl ddechreuwyr newydd eraill!  

Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content