Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth achos: Mark


Summary (optional)
start content

Ar ôl colli ei swydd, roedd Mark allan o waith am y tro cyntaf, ac er bod ganddo hanes cyflogaeth cryf o weithio ym maes manwerthu, gwerthiant a gofal cymdeithasol, roedd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i swydd newydd.  Wrth sylweddoli bod angen help arno i gael gwaith, cysylltodd Mark â’r Canolbwynt i gael cefnogaeth.

Ar ôl cwblhau’r broses gofrestru syml, cafodd Gemma ei neilltuo fel mentor personol Mark a byddai’n gweithio’n agos gydag ef i’w helpu i gyflawni ei nodau.

Yn eu cyfarfod cyntaf, dysgodd Gemma gymaint oedd Mark yn mwynhau helpu pobl eraill a gwelodd ei fod yn hoffus iawn. Oherwydd ei brofiad a’i sgiliau, sylweddolodd fod ganddo lawer o botensial a’i fod yn gallu cyflawni pethau mawr.  Cynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol wrth i CV Mark gael ei ddiweddaru a buon nhw’n trafod dewisiadau gyrfa Mark a’r cyfeiriad yr oedd am fynd iddo.  Penderfynodd Mark ei fod am ddilyn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol, a threfnodd Gemma ei fod yn cwrdd â Mentor Cyflogaeth Gofal Cymdeithasol y Cyngor, Emma Thomas.

Edrychodd Emma a Mark ar wefan Gofalwn Cymru sy’n nodi’r amryw swyddi yn y sector, a buon nhw’n trafod yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yn y Cyngor mewn meysydd fel Anableddau Dysgu, Oedolion Diamddiffyn a Phobl Hŷn.  Roedd Emma’n gallu rhoi cipolwg i Mark ar sefydliadau eraill yn y sector hefyd gan gynnwys The Rowan Organisation, lle mae Cynorthwywyr Personol yn gweithio ar sail 1:1 gyda phobl yn eu cartrefi eu hunain.

Gyda’r holl wybodaeth hon, roedd Mark yn gallu gwneud penderfyniad deallus am gael gwaith mewn canolfan ddydd.  Gan ddefnyddio ei chysylltiadau, llwyddodd Gemma i siarad gyda Rebecca, un o Reolwyr Tîm Cefnogaeth Gymunedol y Cyngor, i holi am swyddi gwag presennol ac er nad oedd rhai, roedd Rebecca yn awyddus i gwrdd â Mark gan ei bod yn gwybod y byddai swyddi Gweithiwr Cefnogi Gwasanaethau Dydd ar gael yn y dyfodol agos.  Yn ogystal â chwrdd â Rebecca, trefnwyd bod Mark yn ymweld â’r ddwy ganolfan ddydd yn Llandudno a Chyffordd Llandudno hefyd.

Roedd y cyfarfod yn llwyddiant mawr ac roedd Mark yn gwybod mai hon oedd y swydd iddo ef.  Roedd adborth Rebecca wrth Gemma yn gadarnhaol iawn hefyd oherwydd roedd y defnyddwyr gwasanaeth wedi cymryd ato’n fawr a dywedodd Rebecca y byddai’n rhoi gwybod i Gemma pan fyddai swydd wag yn codi oherwydd roedd hi’n awyddus iawn i Mark gyflwyno cais.

Pan ddaeth swydd yn wag, aeth Gemma a Mark trwy’r ffurflen gais i sicrhau bod Mark yn nodi ei sgiliau er mwyn bodloni’r holl feini prawf hanfodol yn y manylion am yr unigolyn.  Yna aeth Mark ati i lenwi gweddill y ffurflen ar ei ben ei hun a chyflwynodd ei gais mewn da bryd cyn y dyddiad cau.

Cyn hir, gwahoddwyd Mark am gyfweliad a bu Gemma yn gweithio gydag ef ar ei sgiliau cyfweld gan gynnal cyfweliad ffug er mwyn mynd trwy rhai o’r cwestiynau a allai gael eu gofyn, gan gynnwys rhai am iechyd a diogelwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Roedd y cyfweliad yn llwyddiant ac roedd Mark wrth ei fodd pan gafodd gynnig y swydd.  Gan na fyddai’n dechrau yn y swydd am rai misoedd, roedd Mark yn awyddus i ddefnyddio’r amser hwnnw i ddilyn cwrs a fyddai o fudd iddo yn ei swydd newydd. Trefnodd Gemma le iddo ar Gwrs Makaton trwy Cyswllt Conwy, sef adnodd cyfathrebu gyda lleferydd, arwyddion a symbolau i helpu pobl ag anableddau neu anableddau dysgu gyfathrebu.

Bellach, mae Mark yn gweithio fel Gweithiwr Cefnogi Cymunedol yn y Tîm Anableddau Dysgu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.  Mae hon yn swydd barhaol, 35 awr yr wythnos ac mae Mark wrth ei fodd ac yn cael llawer iawn o foddhad o’r swydd.

Gan siarad am ei brofiad gyda’r Canolbwynt, dywedodd Mark “Heb help ac arweiniad Gemma a’r hyder a roddodd i mi, fyddwn i erioed wedi meddwl y gallwn i gael swydd fel hon. Mae’r profiad cyfan wedi newid fy mywyd ac mae gen i swydd am oes a fydd yn fy ngwneud i’n hapus.”

Os hoffech i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content