Ar ôl creu gyrfa lwyddiannus ym maes lletygarwch a manwerthu, roedd Jane yn wynebu her a newidiodd ei bywyd pan gollodd ei golwg yn un o’i llygaid yn sgil cyflwr meddygol. Roedd y rhwystr annisgwyl yn effeithio ar ei gallu i gyflawni tasgau penodol, ond hefyd roedd yn cynyddu ei dibyniaeth ar eraill. Er yr heriau hyn, roedd Jane yn benderfynol ei bod am ddal ati i weithio. Roedd yn gwybod bod angen arweiniad arni i fynd i’r afael â’i realiti newydd ac fe gysylltodd â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy am gefnogaeth.
Ar ôl cysylltu â’r Canolbwynt, bu i Gemma gael ei dewis fel mentor ymroddgar ar gyfer Jane. O’r cychwyn cyntaf, bu i Gemma dreulio amser yn dod i ddeall gallu presennol Jane, ei dyheadau, a’r heriau drwy asesiad cynhwysfawr. Wrth iddynt adolygu hanes gyrfaol Jane, daeth i’r amlwg bod ei sgiliau rhyngbersonol, ei gallu i fod yn drefnus, a phrofiad mewn amgylchedd prysur yn asedau pwerus. Gyda’r persbectif ffres yma, dechreuodd Jane adennill ei hyder a phenderfynu ceisio am yrfa yn y maes gweinyddol.
Rhan allweddol o daith Jane oedd nodi’r teclynnau a’r adnoddau a fyddai’n ei chynorthwyo i ragori yn ei gyrfa newydd. Bu i Gemma gyflwyno Jane i Mynediad at Waith, cynllun gan y llywodraeth sy’n darparu cyllid ar gyfer technolegau cynorthwyol fel darllenwyr sgrin, meddalwedd chwyddo a chymwysiadau llais i destun.
Rhannodd Gemma wybodaeth am y cynllun Hyderus o ran Anabledd hefyd, sy’n annog cyflogwyr i groesawu cynhwysiant a chefnogi gweithwyr anabl. Roedd hyn yn ysbrydoliaeth i Jane i ganolbwyntio ar sefydliadau sy’n cefnogi hygyrchedd ac sydd â phrofiad o greu gweithleoedd cynhwysol wrth chwilio am swydd.
Roedd angen i CV Jane adlewyrchu ei gallu i addasu a’i hyfedredd gyda thechnoleg gynorthwyol, felly fe wnaeth Gemma gysylltu â Working Sense, rhaglen gyflogadwyedd arbenigol sy’n cael ei chynnig gan Centre of Sight, Sense and Sound (COS). Roedd y bartneriaeth hon yn darparu mynediad at ymyraethau wedi’u teilwra, gan gynnwys gweithdai magu hyder a hyfforddiant galwedigaethol. Mae Cydlynwyr Ymgysylltu â Chyflogwyr arbenigol y rhaglen hefyd yn cysylltu Jane gyda chyfleoedd am swyddi cynhwysol.
Mae Jane yn awr yn mynychu Clwb Swyddi Working Sense ac yn parhau i gydweithio gyda Gemma a’r tîm o arbenigwyr. Gyda phob cam, mae’n datblygu’r sgiliau, hyder a’r cysylltiadau sydd eu hangen i dderbyn rôl weinyddol.
Mae taith Jane yn dystiolaeth o wydnwch a grym trawsnewidiol y gefnogaeth gywir. Gydag ymdrechion Canolbwynt Cyflogaeth Conwy a Working Sense, mae Jane ar y trywydd cywir i gyflawni ei nodau ac yn dystiolaeth y gall heriau fod yn gam tuag at ddechrau newydd.
Os hoffech i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.