Cyfeiriodd yr Adran Gwaith a Phensiynau Craig at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy gan eu bod yn credu bod tîm y Canolbwynt o fentoriaid ac ymgynghorwyr yn fwy addas i'w helpu gyda'i broblemau iechyd meddwl a lles.
Yn ei arddegau, fe wnaeth Craig gyflawni troseddau oedd yn dal i fod yn rhwystr iddo gael gwaith bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach, ac o ganlyniad, cafodd hyn effaith ar ei iechyd meddwl a'i ragolygon ar gyfer y dyfodol.
Er i Craig wneud cais am sawl swydd, roedd wastad yn cael ei wrthod ac roedd angen cymorth un i un arno. Penodwyd Mel yn fentor ar Craig gan Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy ac fe aeth ati i egluro sut y gallai’r Canolbwynt ei helpu i gael swydd. Roedd hwn yn drobwynt i Craig, gan fod ganddo rywun oedd yn credu ynddo ac oedd yn fodlon ei helpu i ddod o hyd i waith cynaliadwy.
Gyda’i gilydd, fe fuon nhw'n gweithio ar gynllun i sicrhau profiad gwaith i Craig drwy wirfoddoli gyda Chydweithfa Crest, a fyddai’n cryfhau ei CV. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, llwyddodd y Canolbwynt i roi costau teithio i Craig ar gyfer ei gyfweliad gyda Crest, ac i'w gyfweliad fod yn un llwyddiannus, teimlai Craig y byddai’n well iddo ganolbwyntio ar chwilio am swydd gyflogedig.
Bu Mel a Craig yn gweithio ar ei CV, a gyda’i gilydd, aethant ati i ymgeisio am swyddi. Yn y cyfamser, aeth Craig ar gwrs hyfforddiant ailgylchu a gynhaliwyd gan Gydweithfa Crest a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Rhoddodd hyn brofiad a chymwysterau iddo a’i arweiniodd at waith llawn amser gyda chwmni ailgylchu lleol, a gyda chais llwyddiannus am gyllid o'r gronfa rwystrau, fe lwyddodd i brynu’r dillad gwaith angenrheidiol.
Er gwaethaf gorffennol Craig, roedd cyfarwyddwr y busnes yn credu bod pawb yn haeddu ail gyfle, ac mae Craig wedi profi ei hun yn weithiwr caled ac ymroddgar sydd wir yn rhan o’r tîm.
Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.