Roedd Richard wedi bod yn ddi-waith ers dros bum mlynedd, ar ôl cael swyddi tymor byr yn flaenorol tra’r oedd yn canolbwyntio ar ei addysg. Yn ystod y cyfnod hwn, bu i Richard hefyd wynebu heriau personol sylweddol yn cynnwys anaf aciwt i’r arennau a’r cyfrifoldeb o fagu ei blant ar ei ben ei hun. Wrth i’w blant dyfu fyny a gadael cartref, dechreuodd Richard deimlo’n fwy a mwy unig, gan ddioddef o orbryder ac iselder, a theimlo’n ansicr am ei ddyfodol.
Ar ôl mynd i’w Ganolfan Waith leol, cafodd Richard ei atgyfeirio at y Canolbwynt er mwyn cofrestru ar raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, lle clywodd am brosiect Hyder yn Dy Hun y Canolbwynt.
Mae’r prosiect, a ariennir gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn canolbwyntio ar leihau arwahanrwydd cymdeithasol, adeiladu gwydnwch a magu hyder wrth ddatblygu sgiliau ymarferol, ariannol, digidol a chyflogadwyedd.
Roedd Richard yn anfodlon ymuno â’r prosiect i ddechrau gan ei fod yn anhysbys ond roedd hefyd yn cael ei ddenu ato gan ei fod yn cydnabod ei fod angen cymorth i leihau ei arwahanrwydd cymdeithasol, felly trefnwyd iddo gyfarfod â Mel Davis, Rheolwr Prosiect Hyder yn Dy Hun. Roedd Mel yn gallu siarad am y prosiect gyda Richard, gan sôn am y gweithgareddau sydd ynghlwm ac yn bwysicaf oll, sut fyddai hyn o fudd iddo, ac roedd ganddo gymaint o ddiddordeb ynddo nes iddo gofrestru ar unwaith gan wybod mai hwn oedd y cyfle perffaith i gael profiadau newydd, cyfarfod pobl newydd ac ail-adeiladu’r hyder sydd ei angen i’w helpu i ddychwelyd i’r gwaith yn y pen draw.
Roedd Hyder yn Dy Hun yn newid byd i Richard ac roedd y trawsnewidiad a brofodd yn enfawr. Roedd y sesiynau grŵp, y rhyngweithio cymdeithasol a’r gweithgareddau heriol yn effeithiol iawn, gan gynnig amgylchedd cyfeillgar heb unrhyw bwysau. Ac roedd y cyfle i gysylltu ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg yn hanfodol, ac yn helpu Richard i oresgyn ei deimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol.
Un o’r gwersi mwyaf gwerthfawr a ddysgodd oedd pwysigrwydd cymuned a chefnogaeth. Roedd y prosiect yn darparu lle diogel i roi cynnig ar bethau newydd, magu sgiliau newydd, ac adeiladu rhwydwaith cymorth a oedd yn ymestyn y tu hwnt i’r sesiynau. Roedd cynnwys cefnogaeth ymarferol fel darparu cinio yn ystod y sesiynau, hefyd yn tynnu sylw at ddealltwriaeth y prosiect o anghenion y cyfranogwyr, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw parhaus.
Nid yn unig wnaeth Richard fagu hyder a hunan-barch o’r newydd, ond bu i’r prosiect hefyd arwain at wneud ffrindiau newydd sydd wedi parhau y tu hwnt i’r gweithgareddau grŵp, ac roedd y gefnogaeth a dderbyniwyd gan Mel ac eraill yn amhrisiadwy, gan atgyfnerthu’r neges nad oedd Richard ar ei ben ei hun ar y daith hon.
O ganlyniad i’r hyder a’r sgiliau newydd, mae Richard bellach yn mynd i gyflogaeth - canlyniad a oedd yn ymddangos yn amhosibl cyn y prosiect, wrth iddo ymuno â’r Rhaglen Cyflogaeth Gymunedol â Chymorth a gynhelir gan Crest mewn partneriaeth â’r Canolbwynt. Mae’r rhaglen yn lleoliad 12 wythnos gyda thâl ar draws ystod o sectorau yn cynnwys manwerthu, gyrru ac ailwampio. Yn ogystal â chael profiad gwaith amhrisiadwy, bydd Richard hefyd yn derbyn cefnogaeth â chyflogadwyedd a chwilio am swydd un i un ac mewn grŵp yn ogystal â hyfforddiant. Yn ogystal â hyn, mae Richard wedi ymgymryd â rôl mentora cymheiriaid o fewn y prosiect Hyder yn Dy Hun, gan ddefnyddio ei daith i ysbrydoli eraill sydd mewn sefyllfa debyg.
Yn gryno, mae Richard bellach yn hapusach, mwy hyderus ac yn fwy gobeithiol am y dyfodol, gydag ymdeimlad newydd o bwrpas a’r posibilrwydd o adeiladu ar ei brofiad yn Crest i sicrhau gyrfa llawn boddhad.
Os hoffech i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.