Mae ein diwylliant Tîm Conwy yn unigryw
Ein nod yw gwneud i’r holl staff deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cefnogi a’u gwerthfawrogi, a rhoi’r offer iddynt wneud eu swyddi’n dda.
Pan fyddwch yn y gwaith, gallwch ddisgwyl rhwydwaith cymorth, sef eich cydweithwyr, i weithio drwy syniadau newydd, dathlu llwyddiant ac ymdrin â materion sy’n ein hwynebu gyda’n gilydd.
Mae gan Gonwy filoedd o weithwyr yn rhedeg amrywiaeth helaeth o wasanaethau. Caiff y gwasanaethau eu rhannu fesul adain ac adran ac mae yna dîm o fewn pob un o’r rheini. Oherwydd hyn, mae gan bob tîm eu dynameg unigryw eu hunain sy’n dod â set o agweddau, gwerthoedd, diddordebau a nodau ynghyd.
Mewn arolwg diweddar, bu i ni ofyn i’n staff faint y maen nhw’n gwerthfawrogi ein diwylliant tîm. Roedd yr ymatebion yn unigol, ond roedd yna thema gyffredin. Dyma ddywedodd un unigolyn:
“Roedd pawb mor groesawgar, gan wneud yn siŵr eu bod yn fy nghynnwys i mewn digwyddiadau cymdeithasol, a’m helpodd i ddod i adnabod y tîm. Alla’ i ddim gofyn llawer mwy ganddyn nhw, mae pawb mor gefnogol!”
Eich helpu i wneud eich gorau
Mae ein diwylliant hyfforddi yn rhoi adnoddau a thechnegau dysgu i ni i helpu staff i wneud eu gorau. Rydym yn hyfforddi staff i fyfyrio ac adolygu eu meddylfryd a’u hymddygiad er mwyn iddynt allu parhau i dyfu.
Mae lles yn sylfaenol i’n hiechyd a hapusrwydd cyffredinol ac mae Conwy wedi ymrwymo i gefnogi staff yn rhagweithiol gyda’u lles corfforol, emosiynol a meddyliol, er mwyn iddynt allu cynnal y fersiwn mwyaf iach a mwyaf hapus ohonynt eu hunain.
Grwpiau cymdeithasol a meithrin tîm y staff
Byddwn yn gofyn yn rheolaidd sut y gallwn ni helpu aelodau staff ar draws y gwasanaethau i ddod i adnabod ei gilydd. Rydym yn annog pob tîm i gamu allan o’u swydd ddyddiol bob hyn a hyn. Mae meithrin tîm yn cryfhau perthnasoedd, yn gwella cyfathrebu, yn ymarfer sgiliau cynllunio, yn cynyddu ysgogiad ac yn annog cydweithredu. Mae ein diwylliant tîm cadarn wedi ein helpu drwy adegau digon anodd yn ogystal â llwyddiannau ysgubol.
Sgwrs Conwy
Bu i ni gydnabod nad yw eistedd i lawr am sgwrs gyda rheolwr atebol bob chwe mis i adolygu amcanion yn adlewyrchu’r amgylchedd cyflym rydym yn gweithio ynddo. Felly fe roesom ni’r gorau i hynny.
Rydym yn annog staff i gyfarfod am sgwrs gyda’u rheolwr atebol pryd bynnag y bydd angen gwneud hynny i gael cymorth, naill ai gyda’u gwaith neu eu lles. Bodau dynol ydym ni, felly bydd yr angen am sgwrs yn wahanol i bawb, ond mae ein diwylliant yn ein hannog i ddod o hyd i’r hyn sy’n addas i bawb.
Amser i Newid Cymru
Rydym wedi ymuno â’r ymgyrch genedlaethol Amser i Newid Cymru i ddileu stigma a gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. Nod yr ymgyrch yw gwella agweddau a newid ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl mewn cymdeithas.
Drwy ymuno ag Amser i Newid Cymru, ein nod yw adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi’i wneud i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl a byddwn yn defnyddio’r rhaglen yma er mwyn herio’r ffordd rydym yn meddwl ac ymddwyn ymhellach.