Mae rhan o ffurflen gais y Cyngor yn gofyn i chi nodi lefel eich sgiliau iaith Gymraeg mewn perthynas â thri chategori - Gwrando a Siarad, Darllen a Deall ac Ysgrifennu.
Gellir defnyddio'r Canllawiau Sgiliau Iaith amgaeedig i ateb y cwestiwn am eich Sgiliau Cymraeg ar y Ffurflen Gais am Swydd.
Darllenwch ddisgrifiadau pob lefel, a dewiswch yr un sy'n disgrifio orau eich gallu o ran y Gymraeg. Yna, bydd angen i chi nodi'r rhif perthnasol yn y bocs perthnasol yn y Ffurflen Gais am Swydd.