Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Siarter Uwch Dim Rheoli


Summary (optional)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2028 - Siarter UDRh tuag at ddyfodol cynaliadwy a gwydn
start content

Yr Her:

Galw cynyddol ar adeg pan fo adnoddau’n prinhau yn wynebu sefydliad sydd am wneud ei orau ar gyfer ei bobl.

Ein Huchelgais:

Gwella ein sefydliad ymhellach fel bod pobl Conwy sydd angen gwasanaethau'r 'Cyngor' yn dal i allu eu cael nhw a’n bod wedi gwella Conwy ymhellach fel lle  - gan gwrdd ag anghenion y presennol heb gyfaddawdu cenedlaethau'r dyfodol.

Llwyddiant fydd..... (nid mewn unrhyw drefn arbennig):

  • Mae swyddogaethau / gwasanaethau mor ariannol effeithlon ag y bo modd: gyda dim, neu’r isafswm o gymhorthdal
  • Mae gennym gynaliadwyedd ariannol a chroes-gymhorthdal - symud arian o ble y mae, i ble mae angen iddo fod.
  • Rydym wedi dileu silos gwasanaeth; ac felly nid oes dim ond cefnogaeth a chydweithrediad, gan fod gan wasanaethau ddealltwriaeth well o lawer o’i gilydd ac felly hyder yn ei gilydd. Mae'r holl wasanaethau yn ddi-dor ac ar eu mwyaf effeithlon.
  • Mae technoleg (digido, awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial) yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf. 
  • Mae gennym ddata rhagorol am ein pobl a'u hanghenion, yr ydym wedi ei ddefnyddio i helpu i lunio gwasanaethau.
  • Cedwir £ Conwy yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu, os nad ydyw, fe’i cedwir o fewn y sir.
  • Rydym wedi bod mor uchelgeisiol ein bod wedi gwneud ychydig o gamgymeriadau - ond rydym wedi symud ymlaen oherwydd ei fod yn 'ddiogel i fethu'.
  • Rydym wedi newid y ffordd y darperir llawer o'n gwasanaethau, gan ddefnyddio'r model mwyaf priodol ac effeithlon ar gyfer y gwasanaeth dan sylw: o bosib gyda braich fasnachu'r Cyngor.
  • Rydym wedi newid ein gwasanaethau trwy ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar.
  • Rydym wedi uchafu’r defnydd a gwerth ein holl asedau: sefydlog, naturiol a deallusol.
  • Rydym wedi herio ein costau yn gyson a pharhaus ac rydym wedi optimeiddio cynhyrchu incwm.
  • Rydym wedi cyflwyno dulliau / modelau / archwaeth newydd ar gyfer risg a pherthnasau gydag ystod lawn o bartneriaid (pobl, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, lled-fasnachol a masnachol) fel bod gwasanaethau ar gael, os nad ydynt o reidrwydd yn cael eu darparu'n uniongyrchol gan y Cyngor.
  • Mae ein cydweithwyr yn y Cyngor wedi bod yn rhan annatod o'r daith - maent wedi bod yn rym ac wedi eu grymuso i gynnig awgrymiadau a rhoi cynnig ar ddulliau newydd.
  • Mae pobl Conwy yn deall rôl y Cyngor - oherwydd yr ydym wedi ei esbonio iddyn nhw ac maen nhw wedi deall y daith maen nhw wedi bod arni gyda ni. 
  • Mae pobl Conwy yn hyderus fod ganddynt fynediad i’r wybodaeth a’r gwasanaethau maent eu hangen. 
  • Lle maent yn gallu, mae pobl Conwy yn cymryd cyfrifoldeb am eu lles eu hunain ac yn deall sut maen nhw'n cyfrannu'n gadarnhaol i fywyd eu cymuned.
  • A byddwn ni wedi cyflawni hyn i gyd trwy fod yn fwy o Sefydliad Dysgu, ar ôl gwerthfawrogi gwerth buddsoddi ein hamser ac egni wrth ddysgu oddi wrth eraill

 

Amseru?:

Mae hyn yn parhau nawr.Mae'n ddull, ethos, diwylliant sy'n adeiladu ar yr hyn sydd gennym eisoes ac yn ein cymryd i lefel arall.

Byddai Conwy yn dal i fod:

Yn sir flaengar sy’n creu cyfleoeddA byddwn yn arddangos ein gwerthoedd; fel chwaraewyr tîm gofalgar, teg ac arloesol.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content