Mae yna nifer o ffyrdd y gall y cyhoedd gymryd rhan yn y broses Trosolwg a Chraffu. Trwy fynychu'r cyfarfodydd, siarad mewn cyfarfodydd, gan roi sylwadau ar agendâu a llawer mwy.
Mae Trosolwg a Chraffu yn golygu fod Cynghorwyr yn gweithio gyda phobl leol, sefydliadau cymunedol, asiantaethau sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor a'r cyhoedd i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac ymatebol. Rydym am sicrhau fod pobl leol yn cael dweud eu dweud ynglŷn â sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu.
Trwy roi eich barn i ni, gallwn helpu i wella’r gwasanaethau a dderbyniwch. Wrth gwrs ni all Trosolwg a Chraffu addo dod i’r un casgliadau â chi, ond bydd eich sylwadau’n cael eu cydnabod a’u hystyried.
I gael gwybodaeth am weithredu’r swyddogaeth Trosolwg a Chraffu, gweler y tudalennau i’r dde o’r dudalen hon.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Swyddog Cefnogi Craffu
Y Gyfraith a Llywodraethu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU
Ffôn: 01492 576061
E-Bost: craffu@conwy.gov.uk