I fod yn gymwys, rhaid i geisiadau:
- effeithio ar grŵp neu gymuned o bobl (ni fydd pwyllgorau trosolwg a chraffu fel arfer yn edrych ar gwynion am wasanaethau unigol)
- ymwneud â gwasanaeth, digwyddiad neu fater o bwys arwyddocaol i'r Cyngor
- ni all y ceisiadau gynnwys materion y mae'r pwyllgor wedi'u hystyried yn ystod y 12 mis diwethaf
- ni all y ceisiadau gynnwys materion y mae Pwyllgor arall o'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn delio â nhw (e.e. materion cynllunio) ac eithrio pan fo'r materion yn ymwneud â phroses gwneud penderfyniadau'r Cyngor.
Cewch gydnabyddiaeth ein bod wedi derbyn eich cais o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd eich ffurflen awgrymiadau’n cael ei hystyried gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol, ynghyd â’r Pennaeth Gwasanaeth sy’n gyfrifol am y mater yr ydych wedi ei godi.
Os penderfynir nad yw mater yn addas i’w ystyried, neu ei fod yn rhy debyg i bwnc sydd wedi ei ystyried yn ddiweddar, bydd Swyddog Cefnogi Craffu yn cysylltu â chi i esbonio wrthych pam nad yw wedi ei dderbyn.