Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhaglen Her yr Hinsawdd


Summary (optional)
start content

Beth ydyn ni yn ei wneud yng Nghonwy?

Rydym wedi llunio cynllun sero net sy’n dangos sut rydym yn anelu at fod yn Gyngor sero net erbyn 2030.

Mae'r Cyngor wedi sefyldu Rhaglen Her yr Hinsawdd er mwyn rhoi ar waith ein gweledigaeth i arwain ein cymunedau yn ein nod i fod yn Gyngor di-garbon net.

Amcanion y rhaglen yw:

  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y Cyngor a ddaw o ystadau, fflyd, staff yn teithio i’r gwaith, teithio ar gyfer busnes, y gadwyn gyflenwi a goleuadau stryd er mwyn llwyddo i greu allyriadau di-garbon net
  • gwrthbwyso’r allyriadau sydd yn weddill erbyn 2030
  • datblygu a gweithredu ar gynllun ynni ardal leol ar gyfer Cyngor Conwy erbyn 2030

Rydym wedi sefydlu 8 prosiect er mwyn gweithredu'r cynllun sero net.

Rhaglen Her yr Hinsawdd: Prosiectau

Mae pob prosiect yn canolbwyntio ar faes sy’n cynhyrchu allyriadau, a bydd yn edrych ar newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Adeiladau

Byddwn yn gwneud gwelliannau i adeiladau i leihau defnydd ynni.

Newyddion diweddaraf: Rydym yn defnyddio data ynni i lunio strategaeth ddatgarboneiddio ar gyfer adeiladau’r Cyngor.

Teithio staff

Byddwn yn llunio cynllun teithio i’r gweithle i leihau nifer y milltiroedd busnes a deithir. Byddwn yn annog staff i leihau eu milltiroedd cymudo a dewis opsiynau cymudo teithio llesol a charbon isel.

Newyddion diweddaraf: Rydym wedi cynnal arolwg teithio staff er mwyn casglu gwybodaeth am ddewisiadau cymudo a theithio busnes. Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon yn rheolaidd i sicrhau bod gwybodaeth yn ymwneud ag ymddygiad teithio ac arferion gweithio staff yn cael eu cadw’n gyfredol, ac er mwyn ystyried modelau gweithio y presennol ac ar gyfer y dyfodol.

Rydym wedi llunio canllawiau teithio i staff ac wedi hyrwyddo hyn i holl staff y Cyngor er mwyn annog mwy o deithio carbon isel.

Gwrthbwyso carbon

Byddwn yn defnyddio cyfleoedd i wrthbwyso carbon ar dir y Cyngor.

Newyddion diweddaraf: Rydym yn casglu data i ganfod effaith coed trefol ar ôl troed carbon Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gan gynnwys amcangyfrif o frigdwf, rhywogaethau coed trefol, diamedr ac uchder. Rydym yn datblygu dull i gasglu'r data coed gofynnol ar gyfer pob cynllun plannu coed yng Nghonwy.

Rydym wedi adeiladu planhigfa goed i hwyluso’r gwaith o dyfu coed a gynaeafwyd yn lleol a cheisio cynaeafu cymaint ag sy’n bosibl o rywogaethau sydd â’r gallu i amsugno’r mwyaf o garbon.

Ers i’r Cyngor gyhoeddi Argyfwng Hinsawdd ym mis Mai 2019, mae 2,073 o goed ychwanegol wedi eu plannu yn Sir Conwy.

Mae 3 ardal newydd o dir wedi cael eu canfod ar gyfer datblygu er mwyn gwella cyfradd storio.

Fflyd

Byddwn yn lleihau allyriadau sydd ynghlwm â defnydd tanwydd yn y fflyd gan ddefnyddio cerbydau trydan.

Newyddion diweddaraf: Rydym wedi gosod isadeiledd gwefru cerbydau trydan mewn 3 safle Cyngor, Depo Builder Street, Depo Bron y Nant a Ffordd Wern Ddu, gan roi cyfanswm o 18 o bwyntiau gwefru.

Rydym wedi derbyn 4 cerbyd ailgylchu trydan ac maent yn y gwasanaeth rheng flaen. Disgwylir i weddill y cerbydau ailgylchu trydan gyrraedd o fewn y 12 mis nesaf.

Yr ydym yn ymchwilio i ffynonellau ychwanegol o gyllid ar gyfer disodli mwy o gerbydau fflyd gyda dewisiadau eraill carbon isel.

Cynllun ynni lleol

Byddwn yn datblygu cynllun i ddatgarboneiddio’r system ynni o fewn Sir Conwy.

Newyddion diweddaraf: Mae’r cynllun terfynol wedi ei lunio a derbyniwyd cymeradwyaeth ddemocrataidd gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle a’r Cabinet.

Mae’r rhaglen ddarparu cynllun ynni ardal leol wedi’i chwblhau. Rydym yn trafod gyda thîm Ynni Uchelgais Gogledd Cymru o ran y ffordd ymlaen i ddarparu’r 7 ymyrraeth a gynigiwyd yn y cynllun.

Golau stryd

Byddwn yn lleihau allyriadau o oleuadau stryd drwy ddefnyddio technoleg garbon isel.

Newyddion diweddaraf: Mae amcanion Prosiect Lleihau Carbon Goleuadau Stryd LED wedi eu cyflawni, ac mae holl lusernau goleuo strydoedd wedi eu newid am rai LED lle bynnag bosibl.

Cadwyn gyflenwi

Byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr i ddatgarboneiddio cadwyn gyflenwi Conwy.

Newyddion diweddaraf: Yr ydym yn dadansoddi data gwariant ac effaith prif gyflenwyr y Cyngor o ran carbon, gan gynnwys lleoliad cyflenwyr, y math o gyflenwyr ac adran wariant.

Mae’r Strategaeth Caffael Corfforaethol wedi cael ei adolygu a bellach yn cynnwys lleihau allyriadau carbon fel blaenoriaeth.

Mae cwestiynau yn cael eu drafftio ar gyfer cyflenwyr posibl er mwyn sefydlu sut maent yn monitro eu hallyriadau carbon.

Prosiect gwefru cerbydau trydan cyhoeddus

Byddwn yn llunio strategaeth ar gyfer cyfleusterau gwefru cerbydau trydan (CT) cyhoeddus yn Sir Conwy a fydd yn sicrhau bod dull cydlynol ledled y sir o ran gwefru CT.

Newyddion diweddaraf: Ar hyn o bryd mae safleoedd yn cael eu proffilio fel lleoliadau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus posibl.

Mae’r tîm prosiect yn paratoi adroddiad strategol yn nodi sut y byddwn yn darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn mannau cyhoeddus.

Byddwn yn cyhoeddi Newyddlen Her yr Hinsawdd er mwyn tynnu sylw at brif ddatblygiadau a chyflawniadau’r rhaglen. Cyhoeddwyd y newyddlen gyntaf ym mis Mehefin 2024.

Her yr Hinsawdd yng Nghonwy Gorffenaf 2024 (PDF)

end content